Crochenwaith Rhufeinig yng Nghaerllion

Crochenwaith Rhufeinig

Jar, powlen a chostrel o lestri slipiog coch Caerllion. Mae natur y pridd wedi dinistrio'r rhan fwyaf o'r arwynebau slipiog coch, er bod clytiau sylweddol wedi goroesi ar y gostrel sydd i'w gweld yng nghefn y grŵp hwn.

Mae astudiaeth o fath unigryw o grochenwaith a ddaeth i'r amlwg yn bwrw goleuni ar y berthynas rhwng y boblogaeth sifil a'r fyddin Rufeinig yng Nghymru.

Roedd crochenwaith yn gynnyrch a fasgynhyrchwyd yn y byd Rhufeinig ac mae'n darparu ffynhonnell gwybodaeth bwysig ar gyfer archaeolegwyr sy'n ymchwilio i hanes y cyfnod hwn.

Mae gwahanol ffasiynau o ran ffurfiau a deunyddiau crai crochenwaith Rhufeinig yn caniatáu i archaeolegwyr ail-greu diwydiannau crochenwaith y gorffennol: ble câi'r llestri eu cynhyrchu, y llwybrau masnachol, a chronoleg anterth a thranc y diwydiannau. Roedd Cymru'n gartref i nifer o'r diwydiannau crochenwaith hyn ac mae un ohonynt wedi bod yn destun sylw a thrafodaeth ers diwedd y 1920au.

Yn ystod y gwaith cloddio yn amffitheatr Rhufeinig Caerllion y darganfu'r archaeolegydd arloesol Syr Mortimer Wheeler, gasgliad o lestri cain o wneuthuriad da, a oedd, yn ôl pob golwg, yn gysylltiedig â'r garsiwn Rhufeinig.

Amffitheatr Rhufeinig Caerllion

Cloddiadau Syr Mortimer Wheeler yn amffitheatr Rufeinig Caerllion.

Mae'r casgliad yn cynnwys amrywiaeth o jygiau, powlenni, platiau a biceri ac roedd nifer ohonynt fel pe baent yn efelychu ffurfiau'r crochenwaith metel a Samiaidd oedd yn cael fewnforio o'r cyfandir.

Gan mai Caerllion oedd cartref yr Ail Leng Awgwstaidd roedd hi'n rhesymol i dybio bod y potiau yn uniongyrchol gysylltiedig â'r fyddin Rufeinig.

Mewn gair, credai Wheeler ei fod wedi darganfod y llestri a ddefnyddiodd y lleng yn ystod yr ail ganrif OC.

Yn ystod gwaith cloddio diweddarach cafwyd hyd i'r math yma o grochenwaith ar nifer o wahanol safleoedd Rhufeinig yng nghyffiniau Caerllion ac, wrth i gymaint ohono ddod i'r fei, daeth yn weddol amlwg ei fod wedi cael ei gynhyrchu'n lleol. Ond y cwestiwn oedd, ble? Cymerodd saith deg mlynedd o waith ychwanegol yng Nghaerllion cyn cael ateb i'r cwestiwn hwn. Archaeolegwyr oedd yn cadw llygad barcud ar ddatblygiad cwrs golff 2.6km (1.6 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o'r gaer gafodd hyd i'r ateb.

Cwrs golff Celtic Manor

Yr odyn yn Aber-nant yn ystod gwaith cloddio Cwrs Golff Celtic Manor 1966. Câi'r crochenwaith i'w danio ei bentyrru ar lawr clai llosg dros y pydew yng nghanol y llun. Llun © Peter Webster.

O ganlyniad i'w gwaith ym 1996 darganfuwyd odyn a gweddillion sawl adeilad - cytiau sychu, o bosibl. Roedd yr odyn, oedd yn ôl pob tebyg yn un o blith nifer o odynau bach a ddefnyddiwyd i gynhyrchu'r math yma o grochenwaith, gan gynnwys amrywiaeth o botiau toredig Llestri Caerllion.

Yn odyn Aber-nant cafwyd tystiolaeth bod y crochenwaith yr oedd Wheeler wedi ei osod mewn un grŵp, o wneuthuriad lleol. Ond roedd un cwestiwn arall heb ei ateb: pwy oedd y crochenwyr?

Credai Wheeler mai llengfilwyr oedd y crochenwyr. Fodd bynnag, awgrymai astudiaeth fanwl o'r argraffnodau 'enw' oedd ar y powlenni cymysgu mawr (mortaria) fod y crochenwyr yn anllythrennog - yn wahanol i'r argraffnodau a welwyd ar deils, oedd yn amlwg lythrennog.

Os oedd gwneuthurwyr y potiau'n anllythrennog, mae'n debyg mai aelodau o'r boblogaeth sifil oeddynt, ac mae hyn yn gyson â'r ffaith fod y crochenwaith yn cael ei gynhyrchu ar adeg (o flynyddoedd cynnar hyd ganol yr ail ganrif) pan roedd nifer fawr o'r llengfilwyr i ffwrdd yng ngogledd Loegr.

Mae'n annhebygol, felly, mai llengfilwyr oedd gwneuthurwyr crochenwaith Caerllion ond, heb os nac oni bai, cynhyrchwyd y crochenwaith ar gyfer llengfilwyr.

Mae'n ymddangos yr aeth rhai aelodau mentrus o'r boblogaeth sifil ati i gyflenwi'r farchnad leol â chrochenwaith ar batrwm a oedd yn adnabyddus iddi.

Darllen Cefndir

Câi rhai darnau o Lestri Caerllion eu cynhyrchu fel copïau o grochenwaith cyfandirol, megis powlenni Samiaidd. Ar y chwith mae powlen Samiaidd ddilys, ac ar y dde y copi llai celfydd ar ffurf Llestr Caerllion.

'Bulmore, Celtic Manor golf course, No. 3' gan B. C. Burnham. Yn Brittania, cyf. 28, tt401-2 (1997).

'The Roman amphitheatre at Caerleon, Monmouthshire' gan T. V. a R. E. M. Wheeler. Yn Archaeologia, cyf. 78, tt111-218 (1928).

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.