David Jones (1895-1974)
Cafodd tirlun, iaith a mythau Cymru fwy o ddylanwad ar David Jones drwy gydol ei fywyd nag a gawsant ar unrhyw un o'i gyfoedion. Ac yntau'n ddyn rhyfeddol ac amryddawn, mae ganddo le unigryw ym myd celf Prydain yr ugeinfed ganrif, a chyfeirir ato'n aml fel y bardd-arlunydd mwyaf ers William Blake.
Ganwyd David Jones yn Llundain. Bu'n ymweld yn rheolaidd â Chymru am ychydig dros bedair blynedd rhwng 1924 a 1928 ac ni ymgartrefodd yma erioed. Ymddengys hyn yn dipyn o baradocs, ond tan y 1950au roedd yn rhaid i bron bob artist Cymreig ddilyn ei yrfa tu allan i Gymru i raddau helaeth.
Roedd tad Jones yn hanu o Dreffynnon yn Sir y Fflint, a throsglwyddodd ymdeimlad dwfn o'i hunaniaeth Gymreig i'w fab, a gysegrodd ei fywyd i astudio diwylliant Cymreig yr oedd yn teimlo ei fod wedi'i golli. Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914, roedd yn benderfynol o ymuno â chatrawd Gymreig. Fe'i anafwyd yn y Somme ym mrwydr Gymreig enwog Coed Mametz. Ar ôl treulio tair blynedd yn Ysgol Gelf San Steffan, ymunodd â chymuned o grefftwyr Catholig yn Ditchling, Sussex. Un o arweinwyr y gymuned oedd y cerflunydd, y teipograffydd a'r engrafwr Eric Gill, a gafodd ddylanwad cryf ar y ffordd yr oedd yn meddwl am gelf. Dyweddïodd â merch Gill, Petra, am gyfnod, ac aeth gydag ef pan symudodd ei deulu o Ditchling i Gapel-y-ffin yn y Mynyddoedd Du. Yno canfu Jones ei ddawn fel arlunydd gan greu gwaith dyfrlliw yn bennaf. Datblygodd weledigaeth bersonol a modernaidd o dirlun Brycheiniog sydd â'i gwreiddiau yng ngwaith celf Cézanne a Van Gogh. Yn ystod y blynyddoedd hyn (1924-1928) treuliodd Jones amser gyda'i rieni hefyd ym maestref Brockley yn Llundain, ac yn y mynachdy Benedictaidd ar Ynys Bŷr.
Ym 1927 fe'i comisiynwyd i wneud cyfres o engrafiadau copr i ddarlunio'r gerdd Rime of the Ancient Mariner gan Coleridge, a'r flwyddyn ganlynol cafodd ei ailethol yn aelod o grŵp arddangos y modernwyr, y Gymdeithas 7 a 5. Tua diwedd 1932 pan oedd bron â chwblhau ei naratif barddonol cywrain o'i brofiad o'r Rhyfel Byd Cyntaf, In Parenthesis, chwalodd ei nerfau, ac roedd yn gynyddol anodd iddo arlunio. Trodd ei gefn hefyd ar y byd celf modernaidd wrth iddo symud i gyfeiriad yr haniaethol, a threuliodd y rhan fwyaf o'r tridegau mewn gwesty bach yn Sidmouth.
Cyhoeddwyd In Parenthesis ym 1937, ac mae bellach yn cael ei ystyried yn un o lwyddiannau mawr moderniaeth lenyddol Prydain, ochr yn ochr â gwaith James Joyce, T. S. Eliot a D. H. Lawrence. Wedi hynny, cyfansoddodd ragor o farddoniaeth, ac roedd hefyd yn paentio mwy yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd ei waith yn cynnwys darnau dyfrlliw mawr – cywrain, manwl, ysgolheigaidd a chynrychioliadol – a oedd yn aml yn cymryd misoedd i'w cwblhau. Ym 1945 dechreuodd weithio ar lythrennu a phaentio arysgrifau gan ddefnyddio darnau o weithiau llenyddol mewn cymysgedd o Ladin, Cymraeg a Hen Saesneg. Cafodd chwalfa arall ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac o 1948 ymlaen aeth i fyw mewn un ystafell mewn llety yn Harrow. Ei ysbrydoliaeth, o ran ei ddarluniau a'i farddoniaeth, oedd ei Babyddiaeth, ac yn benodol dirgelwch canolog yr Offeren, Chwedlau'r Brenin Arthur a hanes Prydain ar ôl goresgyniad y Rhufeiniaid.
Mae ei baentiadau diweddarach yn unigryw o bersonol, yn gyfoethog ac yn llawn cyfeiriadau at ddiwinyddiaeth, hanes a chwedloniaeth. Cyhoeddwyd ei fyfyrdod The Anathemata, un o gerddi hir gwychaf yr ugeinfed ganrif, ym 1951.
Mae dau o'i baentiadau mawr olaf yn crynhoi ei lwyddiant wedi'r rhyfel, Y Cyfarchiad i Fair a Trystan ac Esyllt ac yn dyddio o 1963. Yn y cyntaf, mae'r angel Gabriel yn ymddangos i'r Forwyn Fair sy'n eistedd mewn gardd sy'n seiliedig ar dirlun yn ardal Capel-y-ffin. Mae'r ail, y bu'n llafurio wrtho am dair blynedd, yn darlunio drama ganolog chwedl Trystan ac Esyllt, pan fydd marchog y Brenin March a phriod ei feistr yn yfed diod sy'n peri iddynt syrthio mewn cariad ar eu taith o Iwerddon i Gernyw, ac mae'n llawn manylion eiconograffig cymhleth a chyfoethog.
Pam, felly, mai'r gŵr rhyfedd, swil ac unig hwn oedd un o artistiaid Cymreig mwyaf yr ugeinfed ganrif, a'r mwyaf dylanwadol? Credaf mai'r rheswm yw oherwydd iddo uniaethu mor angerddol â'r syniad o Gymru, a phwysigrwydd ei hiaith a'i diwylliant i brofiad cyffredin Prydain dros y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf. Roedd Jones yn rhan o ymwybyddiaeth wleidyddol a diwylliannol Cymru yn ystod y '50au a'r '60au (roedd Saunders Lewis, un o gyd-sylfaenwyr Plaid Cymru yn gyfaill ac yn ohebydd iddo). Gwelwyd ei waith yma, er enghraifft, mewn arddangosfa deithiol fawr a drefnwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ym 1954, a rhoddwyd medal aur iddo gan yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1964. Dengys sut y gall artist ddatblygu llais Cymreig ymhell tu hwnt i gynrychioli lle.
sylw - (1)
Do send her a good photo of the painting. Say I passed on her email to you.
I've bought a proof of the David Jones He frees the waters of Helyon wood engraving 1930 which also has a constellation. I have sent Prof Bell Burnell a photo of it. Hope all is well with Goscombe John! I did the 1979 exhibition.
Kind regards Fiona Pearson