Sêl-fodrwyau

Rhianydd Biebrach

Sêl-fodrwyau masnachwr o Hwlffordd

Sêl-fodrwyau o Sili

Roedd arwyddocâd hefyd i’r lluniau ar sêl-fodrwyau, a oedd yn aml yn cael eu gwisgo ar y bawd. Mae’r modrwyau hyn yn dal i gael eu gwisgo heddiw, ond nid at y diben gwreiddiol gan amlaf. Mewn oes pan nad oedd hyd yn oed bobl gyfoethog a grymus bob amser yn llythrennog, roedd sêl bersonol ar sêl-fodrwy. Roeddent yn defnyddio’r fodrwy yn lle llofnod i ddilysu dogfennau ac roedd hefyd yn arwydd o statws cymdeithasol uchel. Roedd dyfeisiau herodrol yn ymddangos ar fodrwyau pobl oedd ag arfbeisiau ac roedd symbolau, lluniau neu lythrennau i’w gweld ar fodrwyau pobl o statws cymdeithasol is.

Roedd nodau masnachwyr yn cael eu defnyddio ar sêl-fodrwyau masnachwyr. Yn 2014, cafodd Mr John Rees hyd i sêl-fodrwy arian o’r bymthegfed ganrif neu ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg ac arni nod masnachwr yn Hwlffordd. Erbyn hyn mae’r prosiect Hel Trysor; Hel Straeon wedi’i chaffael ar gyfer Amgueddfa Tref Hwlffordd. Mae’r nod yn cynnwys croesau crwm, plethedig a chroes heb ben. Roedd croesau fel hyn yn gysylltiedig â Sant Antwn ac roedd cred y gallent drin tân Iddwf, neu ergotiaeth, sef clefyd a achoswyd trwy fwyta grawn drwg. Roedd nod y masnachwr yn ddyfais bersonol y gellid adnabod y perchennog wrthi, ond mae cynnwys y groes heb ben yn rhoi naws crefyddol i’r fodrwy a byddai’r perchennog wedi’i dewis yn benodol. Nid oedd Sant Antwn yn sant arbennig o boblogaidd yng Nghymru’r Canol Oesoedd ond, gan fod masnachwyr yn teithio, gallai'r perchennog fod wedi’i chael yn rhywle arall; roedd masnachwyr o orllewin Cymru'n masnachu ar hyd Môr Hafren ac yn teithio i Iwerddon, Sbaen a Phortiwgal, neu gallai fod yn eiddo i fasnachwr tramor.

Canfuwyd sêl-fodrwy symlach o lawer yn Sili ym Mro Morgannwg yn 2013 gan Mr Michael Gerry. Fe’i gwnaed o arian, a’i haddurno â blodyn plaen, pedwar petal, a chredir ei bod yn perthyn i ddiwedd y 15fed ganrif neu ddechrau’r 16eg. Mae’n enghraifft fwy enigmatig o lawer, sy’n datgelu bron ddim am y perchennog – pwy ydoedd, ei waith na’i statws cymdeithasol.

Mae’n ymddangos bod gan rai modrwyau fwy nag un diben neu arwyddocâd. Daeth Mr Leighton Jones o hyd i enghraifft arbennig o ddiddorol yng Nghwm Darran, Caerffili, ym mis Mawrth 2010. Modrwy arian Rufeinig yw hon o’r ganrif 1af neu’r ail ganrif. Ar un adeg, roedd yn dal intaglio neu geugerfiad hirgrwn, gem werthfawr neu led-werthfawr efallai, a fyddai ag addurn wedi endorri arno er gyfer selio dogfennau. Felly, ar un olwg, mae hon yn sêl-fodrwy fel y rhai a ddisgrifir uchod, a byddai modd adnabod ei pherchennog wrthi, ond roedd cynnwys gem werthfawr neu led-werthfawr yn ychwanegu haen arall o ystyr iddi. Roedd y garreg yn ddeniadol ac yn addurnol ynddi ei hunan, gan awgrymu rhywbeth am statws a chyfoeth y sawl a allai ei fforddio. Ond byddai pobl y cyfnod yn credu bod ganddi bwerau i iacháu neu warchod y perchennog, ac roedd y gwahanol emau’n cael eu cysylltu â gwahanol bwerau meddyginiaethol, gwrthfelltithiol neu oruwchnaturiol.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.