Mae archif y Llyfrgell yn cynnwys deunyddiau sy’n taflu goleuni ar hanes cynnar yr Amgueddfa a bywyd Caerdydd ar ddechrau’r 20fed ganrif. Wrth i ni nesáu at ganmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, dyma fwrw golwg ar yr ymdrechion i greu Cofeb Ryfel Genedlaethol i Gymru.

Sbardunwyd yr ymgyrch i sefydlu cofeb genedlaethol yng Nghaerdydd gan y Western Mail ym mis Hydref 1919. Sefydlwyd pwyllgor i oruchwylio’r project dan arweiniad yr Arglwydd Faer ar y pryd, G. F. Forsdike. Caeodd y gronfa ym 1921 wedi codi £27,500 a chynigiwyd comisiwn i Syr Thomas Brock ddylunio’r gofeb – ef oedd wedi dylunio cofeb Fictoria tu allan i Balas Buckingham. Fodd bynnag, er bod y dyluniad yn “brydferth ac urddasol” [1], roedd yn rhy ddrud a bu farw Brock cyn iddo allu cyflwyno cynnig arall. Felly, ym 1924 gwahoddwyd grŵp dethol o benseiri i gyflwyno dyluniadau. Yr enillydd oedd Ninian J. Comper, gaiff ei ystyried heddiw yn un o benseiri mawr olaf yr Adfywiad Gothig [2].

Roedd y pwyllgor eisiau gosod y gofeb ar ddarn crwn o dir o flaen Neuadd y Ddinas. Mae gan y Llyfrgell ddarluniau gwreiddiol yn dangos y safle hwn. Maent wedi’u llofnodi gan A. Dunbar Smith, a ddyluniodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda’i bartner Cecil Brewer.

Bu rhywun wrthi’n ddyfal yn cynhyrchu collage sy’n dangos i ni sut y byddai’r gofeb wedi edrych yn y lleoliad hwn. Mae gennym nifer o ffotograffau maint A3 o’r olygfa o flaen Neuadd y Ddinas, gyda llun model o’r gofeb wedi’i dorri allan a’i osod ar y llun mwy. Wyddom ni ddim pwy wnaeth hyn, ond mae’n amlwg bod y lluniau wedi apelio, gan mai’r cam nesaf oedd creu ffrâm maint-llawn o’r gofeb yn ei lle.

Mae gennym ffotograffau yn dangos y ffrâm yn ei lle gyda chynfas drosti. Fodd bynnag, gwrthwynebwyd y cynllun gan yr Amgueddfa a Neuadd y Ddinas [3]. Hawdd yw deall pam, o weld pa mor agos fyddai’r gofeb fawr wedi bod i’r ddau adeilad.

Felly roedd rhaid mynd ati i greu collage arall yn dangos y gofeb mewn lleoliad gwahanol. Yn y ffotograff hwn, sydd wedi’i dynnu ar Heol y Frenhines yn edrych tuag at Barc Cathays, mae’r model wedi’i osod yng Ngerddi’r Brodordy. Yn anffodus, gwrthodwyd y lleoliad hwn gan Ardalydd Bute, gan ei fod wedi nodi wrth drosglwyddo Parc Cathays i ofal y ddinas na ddylid codi adeiladau ar y safle hwnnw [4].

Yn ffodus, erbyn Awst 1925 roedd safle wedi’i ddewis ar gyfer y gofeb, sef Gerddi Alexandra, a chafodd Comper fwrw ymlaen â’r gwaith o’r diwedd. Bu wrthi o fis Mawrth 1926 tan ddechrau 1928, gyda’r gwaith adeiladu dan ofal E. Turner a’i Feibion.

Yn ôl papurau newydd o’r cyfnod, daeth Tywysog Cymru i ddadorchuddio a chysegru’r gofeb o flaen bron i 50,000 o bobl, ar 12 Mehefin 1928. Yn ôl un adroddiad, cafodd y Tywysog wers Gymraeg gan David Lloyd George ar y trên o Lundain, er mwyn iddo draddodi rhan o’i araith yn Gymraeg [5].

Llun: Trwy garedigrwydd gan y Western Mail

Mae mwy o eitemau diddorol ynglŷn â’r gofeb a’r Rhyfel Byd Cyntaf i’w gweld yma.

Cyfeiriadau

  1. Welsh National War Memorial Official order of service at the ceremony of unveiling and dedication by H.R.H.  The Prince of Wales on June 12th 1928. Caerdydd: Western Mail, t.8.
  2. Symondson, A. & Bucknall, S. 2006. Sir Ninian Comper: an introduction to his life and work with complete gazetteer. Reading: Spire Books, t.198.
  3. Welsh National War Memorial Official order of service at the ceremony of unveiling and dedication by H.R.H.  The Prince of Wales on June 12th 1928. Caerdydd: Western Mail, t.10.
  4. Gaffney, A. 1998. Aftermath: Remembering the Great War in Wales. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t.45.
  5. Ffeil toriadau Llyfrgell Amgueddfa Cymru [Daily Chronicle 15/06/28].

Gadael sylw