Fflora Diatom Prydain ac Iwerddon
Beth yw diatomau?
Algâu ungell microsgopig sy'n byw mewn dyfroedd croyw a lled hallt, y môr a chynefinoedd daearol llaith yw diatomau. Dyma’r grŵp mwyaf cyfoethog o blith y rhywogaethau algâu. Amcangyfrifir bod rhwng 100,000 a 2 filiwn o rywogaethau yn bodoli a bod rhywogaethau newydd yn cael eu darganfod yn aml.
Pam mae diatomau yn bwysig?
Mae diatomau yn algâu pwysig yn yr amgylchedd sy’n cynhyrchu ocsigen ac yn darparu ffynhonnell fwyd i nifer o organebau. Maent hefyd yn sensitif i nifer o amodau amgylcheddol, er enghraifft mae gwahanol rywogaethau'n amrywio yn eu dewis o grynodiadau maetholion, asidedd, halwynedd, llwyth gwaddod, trefn llif a thymheredd. Felly, mae diatomau yn bioddangosyddion da sy'n rhoi gwybodaeth i ni am yr amgylchedd a chyflwr ecosystemau dyfrol. Mae nifer o ddulliau i fonitro newid amgylcheddol wedi cael eu datblygu ac mae mynegeion diatomau fel Mynegai Diatomau Troffig (TDI) y DU a Metrig Asideiddio Diatomau (DAM) yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan ymchwilwyr amgylcheddol ac asiantaethau amgylcheddol i fonitro ansawdd dŵr a statws ecolegol ein ecosystemau dŵr croyw (Kelly et al. 2020, Jüttner et al. 2021).
Beth sy’n gwneud diatomau yn unigryw?
Mae gan diatomau nodwedd unigryw, cellfur sydd wedi'i wneud o silica, a defnyddir ei siâp a'i batrwm morffolegol cywrain i adnabod y gwahanol rywogaethau mewn microsgopeg.
Sut allwn helpu ni i adnabod diatomau?
Mae’r wefan Fflora Diatom Prydain ac Iwerddon yn broject mawr sy’n hwyluso’r broses o adnabod diatomau drwy ddefnyddio eu nodweddion morffolegol. Caiff y project ei arwain gan guradur diatomau Amgueddfa Cymru, Dr Ingrid Jüttner, a’i ariannu gan Gymdeithas Wymonegol Prydain a chyfraniadau anariannol gan yr arbenigwyr a'r sefydliadau sy'n cymryd rhan. Mae'n cynnwys flora diatom ar y we a chyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid sy'n cynnig adolygiad tacsonomaidd o ddiatomau o gynefinoedd dŵr croyw, lled hallt ac isawyrol ym Mhrydain ac Iwerddon.
https://naturalhistory.museumwales.ac.uk/diatoms/
https://www.researchgate.net/profile/Ingrid-Juettner
Amcangyfrifir bod miloedd o rywogaethau o ddiatomau dŵr croyw ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae'r degawd diwethaf wedi gweld nifer o ddiwygiadau tacsonomig, gan gynnwys y rhai mewn genera cyffredin gan gynnwys Amphora, Achnanthidium, Eunotia, Fragilaria, Gomphonema, Planothidium a Sellaphora ac mae rhai rhywogaethau na chofnodwyd yn aml yn y genera hyn bellach wedi'u dogfennu ar wefan diatom flora (Ffig. 1). Mae’n debygol bod nifer o rywogaethau diatomau newydd ym Mhrydain ac Iwerddon eto i’w darganfod, yn enwedig mewn cynefinoedd sydd heb eu cofnodi’n ddigonol fel dyfroedd croyw anghysbell ar dir uchel.
Yn ogystal, fe wnaethon ni ddechrau astudio deunydd hanesyddol a ddefnyddiwyd gan ymchwilwyr diatomau cynharach i ddisgrifio rhywogaethau newydd, er enghraifft casgliadau William Smith, un o ddiatomyddion amlycaf y 19eg. Ei gyfraniad mawr i ymchwil diatomau oedd cyhoeddi'r Synopsis of the British Diatomaceae (1853, 1856), un o'r monograffau diatom systematig cyntaf, ac sy’n dal i fod yn adnodd pwysig ar gyfer adnabod diatomau. Mae ei gasgliadau o sleidiau a deunydd gwreiddiol o'r rhywogaethau a ddisgrifiodd yn cael eu cadw yng Ngardd Fotaneg Meise, Gwlad Belg (Hoover 1976), yn Amgueddfa Astudiaethau Natur, Llundain (Smith 1859) a Gardd Fotaneg Frenhinol Caeredin. Mae casgliad Smith yn cynnwys dros 1200 o samplau o bob rhan o Brydain, ond mae nifer o rywogaethau y fflora Prydeinig a ddisgrifir gan Smith wedi’u dogfennu’n wael, a bydd yn destun ein hastudiaethau yn y dyfodol (Ffig. 2).
Pam mae gwefan Fflora Diatom Prydain ac Iwerddon mor bwysig?
Mae diwygiadau tacsonomig diweddar ac astudiaethau ar ddosbarthiad rhywogaethau (e.e., Novais et al. 2015, Levkov et al. 2016, Wetzel et al. 2019, Jüttner et al. 2022, Van de Vijver et al. 2022) wedi arwain at ddealltwriaeth well o dacsonomeg rhywogaethau ac ecoleg. Cyhoeddwyd yr astudiaethau hyn mewn amrywiaeth o gyfnodolion a llyfrau gwyddonol sy’n golygu ei bod hi’n anodd i ddefnyddwyr dulliau monitro diatomau, myfyrwyr ac ymchwilwyr nad ydynt yn ymwneud ag ymchwil tacsonomig i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Felly mae gwefan Fflora Diatom Prydain ac Iwerddon, sydd ar gael yn eang, ac sy’n crynhoi'r cynnydd diweddaraf mewn tacsonomeg diatomau, yn adnodd gwerthfawr sy'n cefnogi'r defnydd o ddiatomau mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau a chymwysiadau.
Ar hyn o bryd mae 334 o rywogaethau mewn 66 genera wedi’u cyhoeddi ar-lein. Mae pob tacson yn cael ei ddogfennu drwy ddefnyddio arsylwadau microsgopeg golau, ond mae nifer hefyd wedi'u darlunio â lluniau microsgopeg electron sganio, a rhai â delweddau o'r celloedd byw. Mae disgrifiadau morffolegol a rhestr o gyfeiriadau allweddol yn cyd-fynd â phob tacson. Daw nifer o’r rhywogaethau cyhoeddedig o ddyfroedd croyw yr effeithiwyd arnynt gan ewtroffeiddio neu asideiddio ac sydd i’w gweld yn aml wrth fonitro amgylcheddol afonydd a llynnoedd (Ffig 3).
Yn fwy diweddar, fe wnaethom ddarganfod a darlunio nifer o rywogaethau prin o ddyfroedd croyw heb eu llygru (Ffig. 4). Serch hynny, mae fflora cynefinoedd dyfrol lled-naturiol neu bron yn naturiol, er enghraifft y rhai sy'n nodweddiadol mewn corsydd, llynnoedd ucheldir, nentydd a ffynhonnau blaenddwr yn parhau i fod yn brin a byddant yn ffocws i'n gwaith yn y dyfodol. Gall dyfroedd croyw heb eu llygru gynnwys niferoedd uchel o dacsonau sydd mewn perygl (Cantonati et al. 2022) ac mae dealltwriaeth well o fflora'r gwlypdiroedd unigryw hyn yn bwysig a gall gefnogi projectau sy'n asesu newid amgylcheddol mewn cynefinoedd dan fygythiad a chefnogi gwaith adfer ecolegol.
Llyfryddiaeth
Cantonati M., Hofmann G., Spitale D., Werum M., Lange-Bertalot H. 2022. Diatom Red Lists: important tools to assess and preserve biodiversity and habitats in the face of direct impacts and environmental change. Biodiversity and Conservation 31: 453–477. https://doi.org/10.1007/s10531-021-02339-9
Hoover, R.B. 1976. Inventory of the original typical collection of the Reverend William Smith (1808–1857). Types du Synopsis of British Diatomaceae. tt. [i]–xlv, 1–106, 11 plât. Antwerp: Koninklijke Maatschappij voor Dierkunde van Antwerpen met de medewerking van de Koninklijke Albert 1 en het Stadsbestuur van Antwerpen.
Jüttner I., Kelly M.G., Evans S., Probert H., Orange A., Ector L., Marsh-Smith S. 2021. Assessing the impact of land use and liming on stream quality, diatom assemblages and juvenile salmon in Wales, United Kingdom. Ecological Indicators 121, 107057. https://doi.org/10.1016/j.ecolind.2020.107057
Jüttner I., Hamilton P.B., Wetzel C.E., Van der Vijver B., King L., Kelly M.G., Williams D.M., Ector L. 2022. A study of the morphology and distribution of four Achnanthidium Kütz. species (Bacillariophyta), implications for ecological status assessment, and description of two new European species. Cryptogamie Algologie 43(10): 147–176. https://doi.org/10.5252/cryptogamie-algologie2022v43a10
Kelly M.G., Phillips G., Juggins S., Willby N.J. 2020. Re-evaluating expectations for river phytobenthos assessment and understanding the relationship with macrophytes. Ecological Indicators 117, 106582. https://doi.org/10.1016/j.ecolind.2020.106582
Levkov Z., Mitić-Kopanja D., Reichardt E. 2016. The diatom genus Gomphonema from the Republic of Macedonia. Diatoms of Europe Vol. 8. Koeltz Botanical Books, Oberreifenberg, 552 tt.
Novais M.H., Jüttner I., Van de Vijver B., Morais M.M., Hoffmann L., Ector L. 2015. Morphological variability within the Achnanthidium minutissimum species complex (Bacillariophyta): comparison between the type material of Achnanthes minutissima and related taxa, and new freshwater Achnanthidium species from Portugal. Phytotaxa 224(2): 101–139. https://doi.org/10.11646/phytotaxa.224.2.1
Smith W. 1853. A Synopsis of the British Diatomaceae. Vol.1. John Van Voorst, London, 89 tt., 31 plât.
Smith W. 1856. A Synopsis of the British Diatomaceae. Vol.2. John Van Voorst, London, 107 tt., 67 plât.
Smith W. 1859. List of British Diatomaceae in the Collection of the British Museum. Taylor and Francis, London, 55 tt.
Van de Vijver B., Williams D.M., Kusber W.-H., Cantonati M., Hamilton P.B., Wetzel C.E., Ector L. 2022. Fragilaria radians (Kützing) D.M.Williams et Round, the correct name for F. gracilis (Fragilariaceae, Bacillariophyta): a critical analysis of this species complex in Europe. Fottea 22(2): 256–291. https://doi.org/10.5507/fot.2022.006
Wetzel C.E., Van de Vijver B., Blanco S., Ector L. 2019. On some common and new cavum-bearing Planothidium (Bacillariophyta) species from freshwater. Fottea 19(1): 50–89. https://doi.org/10.5507/fot.2018.016