Goresgynwyr estron
Gall rhywogaethau ymledol achosi anhrefn i'n bioamrywiaeth, i’n heconomi ac i’n hiechyd
Sut ydyn ni'n gwybod os yw planhigyn neu anifail yn broblem?
Mae'n bwysig gwybod sut i adnabod y rhywogaethau anfrodorol/ymledol hyn er mwyn achub ein hecosystemau – a dyna’n union mae tacsonomegwyr Amgueddfa Cymru yn ei wneud…
Feddylioch chi erioed beth yw Rhywogaethau Ymledol? Mae rhai’n cyfeirio atyn nhw fel estroniaid, ond pam yr holl ffws a ffwdan? Pam nad ydyn nhw'n perthyn yma a pha niwed allan nhw ei wneud o ddifri?!
Mewn gwirionedd, mae rhywogaethau ymledol yn achosi problemau i'n bywyd gwyllt, i’n heconomi ac i’n bioamrywiaeth. Maen nhw'n goresgyn cynefinoedd ac yn lledaenu'n gyflym, gan greu hafoc, sy’n costio miliynau mewn gwaith atgyweirio, ac maen nhw’n gallu lledu afiechydon na all ein planhigion a'n hanifeiliaid brodorol eu hymladd. Yn syml, maen nhw'n niwsans go iawn! Os hoffech chi ddysgu mwy a helpu gyda'r frwydr darllenwch ymlaen.
Beth yw rhywogaethau anfrodorol?
Mae teithio wedi gwneud ein byd yn llawer llai, ond wrth i ni symud o amgylch y blaned ar gyfer busnes, gwyliau a masnach, mae anifeiliaid a phlanhigion yn symud gyda ni. Flynyddoedd yn ôl, cyn i ni sylweddoli pa broblemau roedden ni'n eu hachosi, fe ddechreuon ni fewnforio planhigion prydferth, neu bysgod cregyn sy'n tyfu'n gyflym ac yn gwneud elw cyflym. Ond gall y planhigion a'r pysgod cregyn hyn guddio anifeiliaid neu blanhigion eraill – sydd i gyd yn barod i'n goresgyn ni!
Pan fydd rhywogaethau'n cyrraedd rhywle na fydden nhw wedi gallu cyrraedd yn naturiol, maen nhw'n cael eu hystyried yn Anfrodorol. Dydy’r cynefin ddim yn un y gallen nhw fod wedi ei gyrraedd heb gymorth dynol. Pan fydd rhywogaethau anfrodorol yn canfod bod yr amodau'n iawn ac yn ymsefydlu, gall arwain at broblem go iawn. Ym Mhrydain, mae 2000 a mwy o blanhigion ac anifeiliaid wedi eu cyflwyno gan bobl o bob cwr o'r byd, naill ai'n fwriadol neu’n ddamweiniol.
Beth yw rhywogaeth ymledol?
Er bod y rhan fwyaf o'r anifeiliaid a'r planhigion anfrodorol ym Mhrydain yn ddigon diniwed, gall tua 10-15% ledaenu a dechrau cael effaith negyddol ar ein rhywogaethau brodorol, ein hiechyd, ein hecosystemau ac ar ein heconomi. Maen nhw'n cael eu dosbarthu’n Rhywogaethau Ymledol wedyn.
Gallwch chi weld dwy enghraifft dda o blanhigion ymledol problematig yn eich milltir sgwâr. Jac y Neidiwr, neu'r 'Himalayan Balsam' yn Saesneg, yw’r cyntaf a dyna i chi enw da, ynte. Mae’n flodyn pinc, hardd sy'n lledu fel tân gwyllt, ac fe ddaeth i'r DU o'r Himalaya fel addurn gardd ym 1839. Clymog Japan (Japanese Knotweed) yw’r ail, sydd â choesynnau tanddaearol dwfn felly hyd yn oed os ydych chi'n ei dorri, mae'n tyfu'n ôl y flwyddyn ganlynol. Gall dyfu i hyd at 2.1 metr (7 troedfedd) gan daflu cysgod dros bob planhigyn arall. Mae'r ddau blanhigyn ymledol hyn yn atal planhigion eraill rhag tyfu, gan leihau bioamrywiaeth yn yr ardal honno. Mae anifeiliaid ymledol yn broblem hefyd, weithiau'n fwy fyth gan eu bod nhw fel arfer ychydig yn fwy symudol. Ac mae gan hyd yn oed y rhai disymud hynny sy'n byw yn y môr, fel y wystrys a’r chwistrell fôr, gyfnod bridio symudol sy’n golygu y gallan nhw ledu i fannau eraill.
Goresgynwyr y môr – o lle daethon nhw, a sut?
Mae pethau'n gallu bod yr un mor drafferthus yn y byd morol. Mae'r Gwymon Sargaso (Sargassum muticum) yn wymon brown arnofiol gyda codau aer ar hyd ei goesyn. Mae’n cronni mewn harbyrau ac ar draethau, mae'n bla ac yn taflu ei gysgod dros wymon eraill sydd angen golau haul i dyfu, yn union fel planhigion y tir. Mae Gwymon Sargaso yn tyfu'n gyflym iawn, ac mae’n mynd yn sownd mewn llafnau cychod, ond mae hefyd yn lleihau cynhyrchiant cynradd, sy’n elfen bwysig o ecosystem iach. Mae hyn yn achosi effeithiau negyddol ar ein hanifeiliaid ac ar ein planhigion brodorol, gan newid y cydbwysedd bioamrywiaeth.
Mae rhywogaethau ymledol yn newyddion drwg, ac er bod rhai ohonyn nhw'n ganlyniad uniongyrchol i fewnforio dynol, mae llawer wedi cyrraedd yma'n ddamweiniol trwy ddyframaethu, dŵr balast mewn llongau neu ddulliau eraill. Mae llawer o rywogaethau infertebratau morol a elwir yn rhywogaethau ymledol yn ddisymud pan maen nhw'n llawn dwf, ond mae ganddyn nhw gyfnod larfaol symudol yn eu cylch bywyd. Mae hyn yn caniatáu i rywogaethau symud fel anifeiliaid planctonig bach. Unwaith yn y golofn ddŵr, gall mân gerrynt eu cludo o fewn yr harbwr gan ganiatáu iddyn nhw symud o long i long.
Ym Mhrydain ac Iwerddon mae nifer y rhywogaethau sy'n cael eu hystyried yn anfrodorol yn amrywio ac mae gwyddonwyr yn ymchwilio byth a hefyd i rywogaethau sydd ar y gorwel – rhai sydd wedi eu canfod mewn gwlad gyfagos a allai gyrraedd yma. Yn achos rhywogaethau morol, un o'r llefydd hynny sy'n cael ei fonitro'n rheolaidd yw'r Iseldiroedd gan ei fod mor agos at ein glannau – os bydd rhywbeth yn cyrraedd yno, mae'n debygol y bydd i'w weld yn nyfroedd Prydain tua chwe mis yn ddiweddarach.
Yn ffodus mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cynhyrchu canllaw i rywogaethau morol anfrodorol yng Nghymru. Ac mae gan Amgueddfa Cymru becyn rhywogaethau ymledol morol, wedi'i lunio ar y cyd â CNC, sydd ar gael ar fenthyg i weithdai er mwyn helpu pobl i adnabod rhywogaethau anfrodorol. Am fwy o fanylion am y pecyn, cysylltwch ag: anna.holmes@amgueddfacymru.ac.uk.
Mewnforion dynol
Mae rhywogaethau'n dod yn ymledol pan mae'r amodau'n iawn iddyn nhw allu tyfu'n drech na’r rhywogaethau brodorol a chystadlu am eu bwyd a’u gofod. Mae Wystrysen y Môr Tawel (Magallana gigas) yn enghraifft dda o hyn. Ar un adeg, roedd ein poblogaethau wystrys Ewropeaidd brodorol (Ostrea edulis) yn ffynnu. Yn y cyfnod Rhufeinig, roedden nhw’n cael eu cludo yn ôl i'r Eidal i'w bwyta, ond heddiw, mae blynyddoedd o dreillio anghynaliadwy a lledaeniad clefydau marwol wedi lleihau’r stociau yn sylweddol. Oherwydd y gostyngiad hwn mewn niferoedd, cafodd Wystrysen y Môr Tawel gyda'i chragen drom, gadarn, ei chyfradd twf cyflym a'i gallu i wrthsefyll clefydau, ei chyflwyno yn y 1960au at ddibenion masnachol. Cwta bum mlynedd yn ddiweddarach cafwyd y cofnod cyntaf ohoni yn y gwyllt, ac mae wedi lledu’n gyflym byth ers hynny. Yn ne Lloegr, ardal ddyframaethu boblogaidd, mae wystrys sydd wedi dianc wedi atgynhyrchu a chreu anhrefn mewn rhai lleoliadau. Gan achosi casgliadau trwchus o gregyn miniog, trwm, maen nhw'n beryglus i bobl ac anifeiliaid sy'n cerdded ar draethau. Cofnodwyd 150,000 o Wystrys y Môr Tawel yn ardal Dyfnaint a Chernyw yn ddiweddar, er mai prin iawn oedden nhw ychydig flynyddoedd ynghynt. (Mae gan erthygl Pacific oyster expansion threatens Devon and Cornwall estuaries - BBC News ragor o wybodaeth am hyn.)
Mae’r cimwch Americanaidd (Homarus americanus), wedi cael ei fewnforio i'r DU ers y 1950au. Mae'n rhad ac yn cael ei bysgota ar raddfa ddiwydiannol, ond yn anffodus mae wedi cyflwyno afiechyd sy'n andwyol i’n cimwch Ewropeaidd. Mae’r cimwch Americanaidd yn cael ei ystyried yn rhywogaeth ymledol am ei fod yn trechu ein cimwch brodorol yn y frwydr am ofod ac mae'n gallu bridio gydag e hefyd; proses o'r enw croesryweddu (pan mae dwy rywogaeth debyg yn gallu bridio'n llwyddiannus). Mae'n anodd, ond nid yn amhosib, adnabod y cimwch Americanaidd – gan achosi problem i'r rhai sy'n ceisio monitro'r goresgynnwr.
Dyframaethu
Cyflwynwyd rhywogaethau di-ri yn ddamweiniol, wedi'u cuddio ar blanhigion, yn y pridd neu hyd yn oed ar anifeiliaid megis wystrys. Cyflwynwyd Ewin Mochyn (Crepidula fornicata) yn ddamweiniol gyda grawn neu silod wystrys o ddwyrain Gogledd America yn y 1970au ac mae wedi lledu’n gyflym. Unwaith roedd yr Ewin Mochyn wedi cyrraedd cyrchfannau tramor roedd yn gallu elwa i'r eithaf ar ei lwyddiant trwy gael larfau planctonig a allai ei helpu i ledu’n lleol. Heddiw, mae rheoliadau dyframaethu llym ynghlwm wrth fewnforio unrhyw rywogaethau anfrodorol ac felly ni ddylai hyn ddigwydd eto – mewn theori! Yn anffodus, mae'r Ewin Mochyn yma i aros gan ei bod hi'n amhosib cael gwared arno. Mae'n mwynhau cynefin alltraeth ac ar ran isa'r traeth gan ffurfio pentyrrau trwchus o unigolion sy’n cysylltu eu hunain â bywyd gwyllt brodorol gan eu mygu.
Goresgynwyr trwy ddŵr balast a chyrff llongau
Llongau cargo mawr yw un o brif gludwyr rhywogaethau anfrodorol morol. Er mwyn teithio ar draws moroedd a chefnforoedd, mae llongau enfawr yn cario dŵr balast (hefyd uchod) o'u tarddle er mwyn sicrhau bod y llong yn cydbwyso. Mae'r dŵr yn cael ei sugno drwy bibellau yn y porthladd, weithiau gyda larfau o rywogaethau ymledol posib yn y dŵr. Ar ben ei thaith bydd y llong yn gwagio ei thanciau balast yn y porthladd newydd, gan wasgaru'r larfau mewn lleoliad cwbl wahanol. Cafodd canran fawr o oresgynwyr morol eu mewnforio fel hyn ar y cychwyn. Erbyn heddiw fodd bynnag, mae mesurau rheoli ar waith i reoli dŵr balast ym mhorthladdoedd Prydain.
Mae llawer o ymwthwyr morol wedi manteisio ar gyfnodau o wrthdaro i lynu wrth longau rhyfel a fyddai’n teithio ar hyd a lled y byd. Cofnodwyd y Chwistrell Fôr Ledr am y tro cyntaf yn Plymouth, Lloegr, ym 1953 ychydig wedi rhyfel Korea. Dychwelodd llongau i'w porthladdoedd yn ystod ac ar ôl y rhyfel gyda phob math o greaduriaid yn sownd i gyrff y llongau, ac mae un – y chwistrell fôr ledr – bellach wedi ymledu cyn belled ag Ynysoedd Orkney yn yr Alban. Mae’n gallu glynu wrth arwynebau caled, mae'n aml wedi’i chramennu ag anifeiliaid a phlanhigion eraill, ac yn y DU, fe’i gwelir yn aml gyda rhywogaethau ymledol eraill.
Cafodd y Gragen Long neu Gwyran Darwin, brodor o Awstralia, ei gweld am y tro cyntaf ym Mhrydain yn Harbwr Chichester ym 1946 ac mae'n hysbys ei bod yn glynu wrth gyrff llongau tanfor a llongau rhyfel. Llwyddodd y cramenogion hyn i groesi'r byd trwy fodio ar draffig rhyfel! Ers hynny mae wedi lledu ar draws y glannau creigiog drwy Loegr i Gymru ac mae bellach wedi cyrraedd yr Alban ac Iwerddon gyda 7861 wedi'u cofnodi yn Ynysoedd Prydain hyd yma. Mae’n reit unigryw ac yn ddigon del gyda'i phlatiau ffriliog gwyn ac fe'i gwelir yn gorchuddio creigiau ar hyd a lled glannau Cymru.
Rafftio ar sbwriel plastig fel dull o deithio
Mae ein moroedd a'n cefnforoedd wedi'u cysylltu â'i gilydd, gan greu corff enfawr o ddŵr y gall goresgynwyr morol fanteisio arno. Er bod y dulliau cyffredin hyn o fewnforio, fel dyframaethu, dŵr balast a glynu wrth gorff llong yn cael eu monitro i raddau, mae un maes sy'n weddol ddieithr i ni. Gall rhai creaduriaid morol lynu’n sownd wrth eitemau plastig arnofiol a chroesi'r moroedd mawr heb help llaw gan neb. Mae rhywogaethau rafftio, fel maen nhw’n cael eu galw gan wyddonwyr, yn defnyddio sbwriel plastig i deithio o lan i lan a hyd yn oed ar draws cefnforoedd. Mae ceryntau yn creu cludfelt enfawr ar gyfer y rhywogaethau hynny sy'n gallu dal yn dynn gydol y daith. Am fwy o wybodaeth am anifeiliaid rafftio, darllenwch y blog Rafting bivalves in Britain and Ireland | Museum Wales.
Ond allwch chi wneud unrhyw beth i helpu?
Yr ateb yw 'gallwch'! Os hoffech chi ymuno â'r frwydr, rydyn ni bob amser yn croesawu pâr arall o lygaid ar lawr gwlad! Ymgyrch bioddiogelwch genedlaethol yw Edrych, Golchi, Sychu ac er ei bod wedi'i hanelu'n wreiddiol at ddefnyddwyr afonydd a llynnoedd dŵr croyw, mae'r un mor berthnasol i'r arfordir hefyd. Os byddwch chi'n gwisgo esgidiau gyda gwadnau garw, edrychwch i weld a oes unrhyw beth yn sownd ar y gwaelod. Golchwch gyda dŵr croyw a sgwriwch unrhyw beth sy'n sownd, cyn ei adael i sychu. Ond, byddwch yn ofalus – mae rhai anifeiliaid morol fel cregyn a gwyddau môr yn gallu cau’n glep a goroesi allan o ddŵr am ychydig ddyddiau felly gofal piau hi.
Yma yng Nghymru, mae app wedi'i greu i gofnodi rhywogaethau ymledol, nid dim ond rhai morol yn unig. Er mwyn dysgu mwy, ewch i Ymledwyr Ecosystem | Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru