Mwydod y môr – beth yw mwydod gwrychog y môr a pham maen nhw mor bwysig?

Katie Mortimer-Jones & Teresa Darbyshire

Y ddwy rywogaeth o lyngyr y traeth sydd i’w gweld o gwmpas y DU, Arenicola marina ac Arenicola defodiens.

Abwyd gwyrdd, Alitta virens, sy’n cael ei ddefnyddio’n aml fel abwyd gan bysgotwyr!

Welwch chi’r blew lliwgar hardd ar ochrau’r fôr-lygoden, Aphrodita aculeata, yma? Gallwch weld bod y corff wedi’i ffurfio o lawer o segmentau, sy’n dangos mai mwydyn yw môr-lygoden.

Mae’r Llynghyren Binc Smotiog, Eupolymnia nebulosa, sydd i’w gweld yn aml o gwmpas y DU, yn cael ei henw oherwydd bod ganddi gorff pinc â smotiau gwyn arno. Welwch chi’r tagellau coch llachar?

Mae’r Mwydyn Côn Hufen Iâ, Lagis koreni, yn defnyddio tywod a darnau o gregyn i adeiladu tiwb cywrain. Mae’n byw ben i waered ac yn defnyddio ei flew aur hardd i dyrchu yn y tywod. 

Montage o rai o’r mwydod gwrychog rhyfeddol rydym yn dod o hyd iddynt ym mhob cwr o’r byd.

  • Ydych chi’n adnabod mwydod? Efallai y byddwch yn rhyfeddu at y rhain. Gall mwydod y môr fod yn hardd, ffyrnig, rhyfeddol a thrawiadol
  • Mae mwydod y môr yn hollbwysig ar gyfer iechyd ein moroedd, maen nhw’n rhan bwysig o weoedd bwyd, ac yn ‘arddwyr y cefnfor’
  • Mae gan Amgueddfa Cymru ddau arbenigwr mewn mwydod y môr, sy’n darganfod rhywogaethau newydd yn y wlad hon a thramor

Efallai nad ydych wedi clywed am fwydod gwrychog y môr, ond maen nhw’n greaduriaid pwysig iawn a rhyfeddol o hardd yn aml. Dyna ein barn ni fel curaduron yr amgueddfa, a gobeithio y byddwch yn cytuno â ni ar ôl darllen yr erthygl hon!

Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad helaeth o infertebratau morol, anifeiliaid sy’n byw yn y môr, ac yn wahanol i chi a fi, nad oes ganddynt asgwrn cefn. Mae’r rhan fwyaf yn dod o ddyfroedd o amgylch Cymru, ond casglwyd rhai o rannau eraill o’r byd. Maen nhw’n cynnwys creaduriaid y môr y byddwch o bosibl yn gyfarwydd â nhw, er enghraifft cimychiaid, crancod, sêr môr, cregyn cylchog, cregyn gleision, cwrelau ac anemonïau, a llawer o rai eraill na fyddwch wedi clywed amdanynt o bosibl.

Beth yw mwydod gwrychog?

Un o’r grwpiau hyn yw mwydod y môr, neu yn fwy penodol mwydod gwrychog y môr. Enw gwyddonol mwydod gwrychog y môr yw polychaete, enw sy’n golygu “llawer o flew”, gan fod ganddynt lawer o ‘flew’ ar eu cyrff i’w galluogi i symud neu lynu at rywbeth arall. Maen nhw’n perthyn i fwydod cyffredin a gelod, mewn grŵp o’r enw ‘Annelida’, y mwydod segmentiedig. Os ydych wedi astudio mwydyn neu bryf genwair yn agos yn eich gardd, byddwch wedi gweld bod y corff wedi’i ffurfio o nifer o segmentau, sy’n egluro enw’r grŵp.

Ble galla i weld mwydod gwrychog?

Ydych chi wedi sylwi ar bentyrrau dolennog o dywod ar wyneb y traeth a meddwl tybed beth wnaeth y sypiau rhyfedd hyn o dywod? Wel, maen nhw’n cael eu gwneud gan lyngyr y traeth, math cyffredin o fwydyn gwrychog y môr sy’n cael ei ddefnyddio’n aml gan bysgotwyr fel abwyd i ddal pysgod. Mae llyngyr y traeth yn byw mewn tyllau yn y tywod, ac yn llyncu’r tywod i gael maethynnau. Yna mae angen iddyn nhw gael gwared ar y tywod, drwy ei ryddhau o’u cynffonau, bron iawn fel tiwb past dannedd. Felly, beth rydych chi’n ei weld mewn gwirionedd yw cynnyrch gwastraff y llyngyr – ie, baw llyngyr!

Math arall o fwydyn gwrychog y môr y gallech fod wedi clywed amdano yw abwyd melys, sydd hefyd yn cael eu defnyddio gan bysgotwyr fel abwyd. Gall yr abwydyn gwyrdd, Alitta virens, dyfu i fod hyd at fetr o hyd, ac mae’n garthysydd, sy’n aml yn bwyta anifeiliaid eraill! Ond peidiwch â phoeni, dydyn nhw ddim i’w gweld ar y traeth yn aml.

Pam y mae mwydod gwrychog y môr yn bwysig?

Yn gyntaf, maen nhw’n aml yn ffurfio cyfran fawr o’r anifeiliaid sy’n byw yng ngwely’r môr, weithiau cynifer â 50-80%! Mae hyn yn eu gwneud yn rhan bwysig o weoedd bwyd morol, ac yn darparu bwyd i anifeiliaid eraill megis crancod, cimychiaid, pysgod, adar y môr a hyd yn oed fathau eraill o fwydod. Hebddyn nhw, byddai gweoedd bwyd cyfan yn crebachu. Yn ail, y creaduriaid hyn yw ‘garddwyr y cefnfor’, yn gwneud gwaith tebyg i fwydod ar dir. Maen nhw’n troi’r gwaddodion yng ngwely’r môr drosodd, ac yn cael ocsigen i lawr iddyn nhw. Mae gwyddonwyr yn aml yn dweud eu bod yn ‘rhywogaeth ddangosol’ dda, sy’n golygu eu bod yn gallu dweud rhywbeth wrthym am iechyd a chyflwr y moroedd. Er enghraifft, mae presenoldeb rhai mwydod gwrychog yn dweud wrthym fod gwely’r môr yn iach, tra gallai eraill fod yn arwydd bod yr amgylchedd wedi’i lygru. Gall mwydod eraill adeiladu strwythurau tebyg i riffiau a all fod yn gartref i anifeiliaid o bob math.

Sut mae mwydod gwrychog yn edrych?

Gobeithio ein bod wedi llwyddo i’ch argyhoeddi pa mor bwysig yw mwydod gwrychog y môr, ond beth am eich argyhoeddi pa mor ddel ydyn nhw? Wel, mae dros 12,000 o wahanol rywogaethau o fwydod gwrychog y môr ar hyd a lled y byd, ac rydym yn darganfod rhywogaethau newydd o hyd. Mae gennym ymhell dros 1,000 o rywogaethau yn y DU, ac mae’r nifer yn cynyddu o hyd. Felly, sut maen nhw’n edrych? Mae mwydod gwrychog y môr wedi addasu i fyw ym mhob cynefin ac amgylchedd morol bron, felly maen nhw’n amrywio’n fawr o ran siâp, maint a lliw. Mae rhai’n fach iawn, mor fach mewn gwirionedd nes eu bod yn byw rhwng y gronynnau tywod ar y traeth, tra mae eraill yn ôl y sôn yn gallu tyfu i fod dros 4 metr o hyd! Gall rhai edrych yn debyg iawn i fwydod cyffredin, ond mae llawer yn edrych yn wahanol iawn, ac mae rhai nad ydyn nhw’n edrych fel mwydod o gwbl. Mae rhai yn lliwiau llachar, yn edrych bron iawn fel blodau, mae eraill bron yn symudliw a sgleiniog, ac mae rhai hyd yn oed yn edrych braidd yn frawychus! Felly, gadewch i ni ddweud wrthych am rai mwydod diddorol iawn ……

Aphrodite aciculata, yn edrych yn flewog, ond mwydod ydyn nhw. Maen nhw’n byw ym mhob cwr o’r DU a gallwch eu gweld weithiau wedi’u golchi i’r traeth. Os trowch un ben i waered gallwch weld y segmentau sy’n dweud wrthych mai mwydyn yw môr-lygoden. Mae’n ysglyfaethwr, yn aml yn bwyta mwydod eraill. Ond edrychwch ar y blew hardd a lliwgar ar ei gorff!

Mae gan y Llynghyren Binc Smotiog, Eupolymnia nebulosa, gorff pinc â smotiau gwyn arno, a thentaclau tebyg i sbageti y mae’n eu defnyddio i ddal ei bwyd. Er mai ‘strawberry worm’ yw’r enw Saesneg arni, go brin y byddai’n mynd yn dda gyda hufen! Mae llyngyr pinc smotiog yn cuddio dan greigiau ar y traeth, ym mhob cwr o’r DU.

Gan ein bod yn siarad am fwyd, dyna i chi’r Mwydyn Côn Hufen Iâ, Lagis koreni. Mae’r mwydod hardd hyn yn adeiladu tiwbiau cywrain siâp côn o ronynnau tywod a darnau bach o gregyn. Mae’r mwydod yn byw ben i waered, gan dyrchu yn y tywod â blew aur, sy’n edrych yn debyg i flew llygaid! Efallai y byddwch yn dod o hyd i diwb gwag ar draethau yn y DU.

Pam y mae amgueddfeydd yn cadw casgliadau o fwydod gwrychog y môr?

Gobeithio ein bod wedi eich argyhoeddi y gall mwydod fod yn greaduriaid rhyfeddol, ond pam y mae gan amgueddfeydd gasgliadau ohonyn nhw? Mae’r casgliadau hyn yn rhoi ciplun syfrdanol o ba rywogaethau sydd wedi byw mewn gwahanol leoedd ar wahanol adegau. Mae hyn yn bwysig er mwyn i ni allu cofnodi unrhyw newidiadau a allai ddigwydd o ganlyniad i bethau fel newid hinsawdd.

A oes rhywogaethau newydd o fwydod gwrychog yn cael eu darganfod o hyd?

Mae gan Amgueddfa Cymru ddau arbenigwr mewn mwydod gwrychog y môr sy’n astudio’r anifeiliaid rhyfeddol hyn. Maen nhw’n dacsonomyddion, gwyddonwyr sy’n darganfod, disgrifio ac enwi rhywogaethau newydd ac yn dweud wrth bobl eraill ym mhob cwr o’r byd beth i chwilio amdano. Mae casgliadau amgueddfeydd yn adnodd hynod o bwysig ar gyfer y math yma o ymchwil, ac yn ein helpu i ddysgu mwy am fioamrywiaeth ar y Ddaear a chofnodi ac ymchwilio i newidiadau. Gallwch ddarganfod rhagor am waith disgrifio rhywogaethau yr Amgueddfa yma. Cadwch lygad hefyd am ddiweddariadau ar dudalennau blog yr amgueddfa.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.