Mwydod y môr – beth yw mwydod gwrychog y môr a pham maen nhw mor bwysig?

Katie Mortimer-Jones & Teresa Darbyshire

Un lyngyr hir ar gefndir du. Mae corff y lyngyr wedi’i rannu’n segmentau ac yn dangos graddiant o liwiau o felyn golau ar un pen i frown coch tywyllach yn y canol, ac yna’n trawsnewid yn ôl i felyn golau tuag at y pen arall.

Y ddwy rywogaeth o lyngyr y traeth sydd i’w gweld o gwmpas y DU, Arenicola marina ac Arenicola defodiens.

Abwyd gwyrdd gyda phen gwyn a nifer o atodiadau bach, tebyg i wallt ar bob segment. Mae corff yr abwyd wedi’i ymestyn ac yn troelli i mewn i siâp troellog, gyda’r pen ôl yn troelli tuag at y pen.

Abwyd gwyrdd, Alitta virens, sy’n cael ei ddefnyddio’n aml fel abwyd gan bysgotwyr!

Llun agos o'r for-lygoden. Mae corff y mwydyn wedi’i ymestyn ac wedi’i rannu’n segmentau, gyda phob segment yn cynnwys pâr o ymlediadau cigog o’r enw parapodia sy’n cario nifer o frwsys, neu chaetae.

Welwch chi’r blew lliwgar hardd ar ochrau’r fôr-lygoden, Aphrodita aculeata, yma? Gallwch weld bod y corff wedi’i ffurfio o lawer o segmentau, sy’n dangos mai mwydyn yw môr-lygoden.

Llynghyren Binc Smotiog, yn nodedig am ei liw oren bywiog gyda chymalau melyn bach, mae’r siâp cyffredinol yn debyg i'r rhif wyth. Mae’r creadur wedi’i osod yn erbyn cefndir gwyn plaen sy’n cyferbynnu â’i liw llachar.

Mae’r Llynghyren Binc Smotiog, Eupolymnia nebulosa, sydd i’w gweld yn aml o gwmpas y DU, yn cael ei henw oherwydd bod ganddi gorff pinc â smotiau gwyn arno. Welwch chi’r tagellau coch llachar?

Dau greadur morol hirgul, silindrog ochr yn ochr yn erbyn cefndir du. Ar y chwith mae organedd tryloyw, gyda chyfres o rannau corff wedi’u segmentu a chynffonau pluog ar ei ben

Mae’r Mwydyn Côn Hufen Iâ, Lagis koreni, yn defnyddio tywod a darnau o gregyn i adeiladu tiwb cywrain. Mae’n byw ben i waered ac yn defnyddio ei flew aur hardd i dyrchu yn y tywod. 

Cyfuniad o naw delwedd yn arddangos amrywiaeth o fwydod morol. Mae’r delweddau’n dangos ystod o liwiau a ffurfiau, gan gynnwys mwydyn segmentog pinc golau, mwydyn oren gyda thentaclau hir, tenau, a chreadur glas tryloyw

Montage o rai o’r mwydod gwrychog rhyfeddol rydym yn dod o hyd iddynt ym mhob cwr o’r byd.

  • Ydych chi’n adnabod mwydod? Efallai y byddwch yn rhyfeddu at y rhain. Gall mwydod y môr fod yn hardd, ffyrnig, rhyfeddol a thrawiadol
  • Mae mwydod y môr yn hollbwysig ar gyfer iechyd ein moroedd, maen nhw’n rhan bwysig o weoedd bwyd, ac yn ‘arddwyr y cefnfor’
  • Mae gan Amgueddfa Cymru ddau arbenigwr mewn mwydod y môr, sy’n darganfod rhywogaethau newydd yn y wlad hon a thramor

Efallai nad ydych wedi clywed am fwydod gwrychog y môr, ond maen nhw’n greaduriaid pwysig iawn a rhyfeddol o hardd yn aml. Dyna ein barn ni fel curaduron yr amgueddfa, a gobeithio y byddwch yn cytuno â ni ar ôl darllen yr erthygl hon!

Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad helaeth o infertebratau morol, anifeiliaid sy’n byw yn y môr, ac yn wahanol i chi a fi, nad oes ganddynt asgwrn cefn. Mae’r rhan fwyaf yn dod o ddyfroedd o amgylch Cymru, ond casglwyd rhai o rannau eraill o’r byd. Maen nhw’n cynnwys creaduriaid y môr y byddwch o bosibl yn gyfarwydd â nhw, er enghraifft cimychiaid, crancod, sêr môr, cregyn cylchog, cregyn gleision, cwrelau ac anemonïau, a llawer o rai eraill na fyddwch wedi clywed amdanynt o bosibl.

Beth yw mwydod gwrychog?

Un o’r grwpiau hyn yw mwydod y môr, neu yn fwy penodol mwydod gwrychog y môr. Enw gwyddonol mwydod gwrychog y môr yw polychaete, enw sy’n golygu “llawer o flew”, gan fod ganddynt lawer o ‘flew’ ar eu cyrff i’w galluogi i symud neu lynu at rywbeth arall. Maen nhw’n perthyn i fwydod cyffredin a gelod, mewn grŵp o’r enw ‘Annelida’, y mwydod segmentiedig. Os ydych wedi astudio mwydyn neu bryf genwair yn agos yn eich gardd, byddwch wedi gweld bod y corff wedi’i ffurfio o nifer o segmentau, sy’n egluro enw’r grŵp.

Ble galla i weld mwydod gwrychog?

Ydych chi wedi sylwi ar bentyrrau dolennog o dywod ar wyneb y traeth a meddwl tybed beth wnaeth y sypiau rhyfedd hyn o dywod? Wel, maen nhw’n cael eu gwneud gan lyngyr y traeth, math cyffredin o fwydyn gwrychog y môr sy’n cael ei ddefnyddio’n aml gan bysgotwyr fel abwyd i ddal pysgod. Mae llyngyr y traeth yn byw mewn tyllau yn y tywod, ac yn llyncu’r tywod i gael maethynnau. Yna mae angen iddyn nhw gael gwared ar y tywod, drwy ei ryddhau o’u cynffonau, bron iawn fel tiwb past dannedd. Felly, beth rydych chi’n ei weld mewn gwirionedd yw cynnyrch gwastraff y llyngyr – ie, baw llyngyr!

Math arall o fwydyn gwrychog y môr y gallech fod wedi clywed amdano yw abwyd melys, sydd hefyd yn cael eu defnyddio gan bysgotwyr fel abwyd. Gall yr abwydyn gwyrdd, Alitta virens, dyfu i fod hyd at fetr o hyd, ac mae’n garthysydd, sy’n aml yn bwyta anifeiliaid eraill! Ond peidiwch â phoeni, dydyn nhw ddim i’w gweld ar y traeth yn aml.

Pam y mae mwydod gwrychog y môr yn bwysig?

Yn gyntaf, maen nhw’n aml yn ffurfio cyfran fawr o’r anifeiliaid sy’n byw yng ngwely’r môr, weithiau cynifer â 50-80%! Mae hyn yn eu gwneud yn rhan bwysig o weoedd bwyd morol, ac yn darparu bwyd i anifeiliaid eraill megis crancod, cimychiaid, pysgod, adar y môr a hyd yn oed fathau eraill o fwydod. Hebddyn nhw, byddai gweoedd bwyd cyfan yn crebachu. Yn ail, y creaduriaid hyn yw ‘garddwyr y cefnfor’, yn gwneud gwaith tebyg i fwydod ar dir. Maen nhw’n troi’r gwaddodion yng ngwely’r môr drosodd, ac yn cael ocsigen i lawr iddyn nhw. Mae gwyddonwyr yn aml yn dweud eu bod yn ‘rhywogaeth ddangosol’ dda, sy’n golygu eu bod yn gallu dweud rhywbeth wrthym am iechyd a chyflwr y moroedd. Er enghraifft, mae presenoldeb rhai mwydod gwrychog yn dweud wrthym fod gwely’r môr yn iach, tra gallai eraill fod yn arwydd bod yr amgylchedd wedi’i lygru. Gall mwydod eraill adeiladu strwythurau tebyg i riffiau a all fod yn gartref i anifeiliaid o bob math.

Sut mae mwydod gwrychog yn edrych?

Gobeithio ein bod wedi llwyddo i’ch argyhoeddi pa mor bwysig yw mwydod gwrychog y môr, ond beth am eich argyhoeddi pa mor ddel ydyn nhw? Wel, mae dros 12,000 o wahanol rywogaethau o fwydod gwrychog y môr ar hyd a lled y byd, ac rydym yn darganfod rhywogaethau newydd o hyd. Mae gennym ymhell dros 1,000 o rywogaethau yn y DU, ac mae’r nifer yn cynyddu o hyd. Felly, sut maen nhw’n edrych? Mae mwydod gwrychog y môr wedi addasu i fyw ym mhob cynefin ac amgylchedd morol bron, felly maen nhw’n amrywio’n fawr o ran siâp, maint a lliw. Mae rhai’n fach iawn, mor fach mewn gwirionedd nes eu bod yn byw rhwng y gronynnau tywod ar y traeth, tra mae eraill yn ôl y sôn yn gallu tyfu i fod dros 4 metr o hyd! Gall rhai edrych yn debyg iawn i fwydod cyffredin, ond mae llawer yn edrych yn wahanol iawn, ac mae rhai nad ydyn nhw’n edrych fel mwydod o gwbl. Mae rhai yn lliwiau llachar, yn edrych bron iawn fel blodau, mae eraill bron yn symudliw a sgleiniog, ac mae rhai hyd yn oed yn edrych braidd yn frawychus! Felly, gadewch i ni ddweud wrthych am rai mwydod diddorol iawn ……

Aphrodite aciculata, yn edrych yn flewog, ond mwydod ydyn nhw. Maen nhw’n byw ym mhob cwr o’r DU a gallwch eu gweld weithiau wedi’u golchi i’r traeth. Os trowch un ben i waered gallwch weld y segmentau sy’n dweud wrthych mai mwydyn yw môr-lygoden. Mae’n ysglyfaethwr, yn aml yn bwyta mwydod eraill. Ond edrychwch ar y blew hardd a lliwgar ar ei gorff!

Mae gan y Llynghyren Binc Smotiog, Eupolymnia nebulosa, gorff pinc â smotiau gwyn arno, a thentaclau tebyg i sbageti y mae’n eu defnyddio i ddal ei bwyd. Er mai ‘strawberry worm’ yw’r enw Saesneg arni, go brin y byddai’n mynd yn dda gyda hufen! Mae llyngyr pinc smotiog yn cuddio dan greigiau ar y traeth, ym mhob cwr o’r DU.

Gan ein bod yn siarad am fwyd, dyna i chi’r Mwydyn Côn Hufen Iâ, Lagis koreni. Mae’r mwydod hardd hyn yn adeiladu tiwbiau cywrain siâp côn o ronynnau tywod a darnau bach o gregyn. Mae’r mwydod yn byw ben i waered, gan dyrchu yn y tywod â blew aur, sy’n edrych yn debyg i flew llygaid! Efallai y byddwch yn dod o hyd i diwb gwag ar draethau yn y DU.

Pam y mae amgueddfeydd yn cadw casgliadau o fwydod gwrychog y môr?

Gobeithio ein bod wedi eich argyhoeddi y gall mwydod fod yn greaduriaid rhyfeddol, ond pam y mae gan amgueddfeydd gasgliadau ohonyn nhw? Mae’r casgliadau hyn yn rhoi ciplun syfrdanol o ba rywogaethau sydd wedi byw mewn gwahanol leoedd ar wahanol adegau. Mae hyn yn bwysig er mwyn i ni allu cofnodi unrhyw newidiadau a allai ddigwydd o ganlyniad i bethau fel newid hinsawdd.

A oes rhywogaethau newydd o fwydod gwrychog yn cael eu darganfod o hyd?

Mae gan Amgueddfa Cymru ddau arbenigwr mewn mwydod gwrychog y môr sy’n astudio’r anifeiliaid rhyfeddol hyn. Maen nhw’n dacsonomyddion, gwyddonwyr sy’n darganfod, disgrifio ac enwi rhywogaethau newydd ac yn dweud wrth bobl eraill ym mhob cwr o’r byd beth i chwilio amdano. Mae casgliadau amgueddfeydd yn adnodd hynod o bwysig ar gyfer y math yma o ymchwil, ac yn ein helpu i ddysgu mwy am fioamrywiaeth ar y Ddaear a chofnodi ac ymchwilio i newidiadau. Gallwch ddarganfod rhagor am waith disgrifio rhywogaethau yr Amgueddfa yma. Cadwch lygad hefyd am ddiweddariadau ar dudalennau blog yr amgueddfa.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.