John Gwyn Jeffreys: Arloeswr Archwilio’r Dyfnfor o Gymru
- Roedd John Gwyn Jeffreys yn naturiaethwr enwog. Cafodd ei eni yn Abertawe, ac roedd yn arloeswr ym maes archwilio’r dyfnfor yn y 1800au.
- Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i gregyn a gasglwyd ganddo yn ystod allteithiau i archwilio’r dyfnfor, ei gwpwrdd cregyn hardd sy’n cael ei arddangos yng Nghastell Sain Ffagan, ac archifau llythyrau o 1840 hyd 1854. Mae hyd yn oed y papur blotio a ddefnyddiai wrth ysgrifennu ei lythyrau yn cael ei gadw gennym!
- Darganfyddwch am ei fywyd, ei ddylanwadau a’i ddarganfyddiadau am folysgiaid a’r dyfnfor.
Roedd John Gwyn Jeffreys (1809–1885) yn un o gregynegwyr (arbenigwyr ym maes cregyn molysgiaid) enwocaf Prydain yn y 19eg ganrif, ac roedd yn hoff iawn o dreillio ac archwilio’r dyfnfor. O’i ddyddiau cynnar yn archwilio Bae Abertawe mewn cwch rhwyfo, aeth ymlaen i arwain allteithiau i archwilio’r dyfnfor ym moroedd Prydain ac Ewrop, gan ddarganfod creaduriaid byw mewn dyfroedd dyfnach nag yr oedd neb wedi eu harchwilio o’r blaen. Ni fyddem yn gwybod hanner cymaint am y dyfnfor oni bai am waith arloesol Jeffreys a’i gyd-fforwyr.
“Mae atyniad tebyg i fagnet
Yn y dyfroedd hyn i’r grym llawn dychymyg
Sy’n cysylltu’r anweledig â’r gweledig,
Ac yn darlunio pethau nas gwelwyd”
(Cyfieithiad o ddarn o farddoniaeth a ddyfynnwyd yn un o ddarlithoedd Jeffreys, 1881)
Pwy oedd John Gwyn Jeffreys?
Ysbrydoliaeth y blynyddoedd cynnar
Ganwyd John Gwyn Jeffreys yn Abertawe ar 18 Ionawr 1809 ac roedd yn ddisgynnydd i un o’r teuluoedd hynaf yng Nghymru. Dechreuodd ei ddiddordeb mewn hanes natur pan oedd yn ifanc iawn, ac yn Ysgol Ramadeg Abertawe y cafodd ei wers gyntaf mewn casglu cregyn, a’i rhoddodd ar lwybr y byddai’n ei ddilyn am weddill ei oes.
Yn 17 oed, cafodd Jeffreys brentisiaeth gyda chyfreithiwr yn Abertawe, ond parhaodd i ymddiddori mewn cregyn a chasglu drwy ymwneud â’r gymuned hanes natur leol. Yma cyfarfu â Lewis Weston Dillwyn (1778–1855), a oedd yn adnabyddus am gynhyrchu crochenwaith Abertawe, ond a oedd hefyd yn hanesydd natur brwd. Dan ei ddylanwad ef y cafodd Jeffreys ei annog i gynhyrchu ei bapur gwyddonol cyntaf, pan oedd yn 19 oed.
Bu Jeffreys yn llwyddiannus fel cyfreithiwr yn Abertawe am flynyddoedd, ac roedd yn cael cyfle i fwynhau hanes natur yn ystod ei amser rhydd. Treuliai ei wyliau yn ceisio dod o hyd i rywogaethau ac amrywogaethau newydd o folysgiaid, yn treillio o gwch rhwyfo i ddechrau ac yn ddiweddarach o’i gwch hwylio, yr Osprey. Aeth ei ddyhead am rywogaethau anarferol a newydd ag ef tua’r gogledd, ac i Ynysoedd Shetland yn fwyaf arbennig, lle gallai dreillio’r dyfroedd dyfnach yn agos at y lan. Rhoddodd y dull gweithredu ymarferol yma ddealltwriaeth werthfawr o gregyn iddo, a hefyd sut roedden nhw’n byw, y cynefinoedd lle’r oedden nhw’n goroesi, a sut roedd gwahanol rywogaethau yn byw gyda’i gilydd ac yn rhyngweithio.
Ymddeol i ymchwilio
Yn 1856, gadawodd Jeffreys a’i deulu Abertawe er mwyn iddo allu bod yn fargyfreithiwr yn Llundain, lle buont yn byw am 10 mlynedd. Yn 57 oed, penderfynodd Jeffreys ymddeol o fyd y Gyfraith a symudodd i Swydd Hertford, er mwyn gallu ymroi’n llwyr o’r diwedd i’r maes yr oedd ganddo gymaint o ddiddordeb ynddo, sef hanes natur.
Llythyrau o bell
Cyfathrebodd Jeffreys â bron bob cregynegwr yn Ewrop yn ei gyfnod, a chadwodd gofnod manwl o bob llythyr a anfonodd. Yn 2009, daeth dwy gyfrol o’i lythyrau i feddiant Amgueddfa Cymru. Roedd y llythyrau hyn wedi’u hysgrifennu rhwng 1840 ac 1854 pan oedd yn byw yn Abertawe.
Mae’r llyfrau llythyrau yn datgelu cywreinrwydd y gwaith o astudio cregyn, ac yn cynnwys cynlluniau ar gyfer teithiau yn y dyfodol a thrafodaethau gwyddonol. Gwelir hyn yn y 51 o lythyrau at Edward Forbes, un arall a oedd yn mwynhau treillio ac a oedd yn un o sylfaenwyr bioleg y môr ym Mhrydain. Er eu bod yn ffrindiau mawr, roedd rhywfaint o gystadleuaeth rhyngddyn nhw hefyd, gan fod y ddau’n awyddus i gyhoeddi’r llyfr swyddogol ar folysgiaid Prydain.
Mae llawer o naturiaethwyr enwog y cyfnod yn cael eu cynnwys yn y llyfrau hyn; mae yna hyd yn oed lythyr wedi’i ysgrifennu at Charles Darwin! Er hyn, ni allai Jeffreys dderbyn y ddamcaniaeth ynglŷn ag esblygiad, a chredai nad yw rhywogaethau’n newid dros gyfnod.
Roedd Jeffreys yn rhannu ei wybodaeth!
“Mae treillio yn rhagori ar bob dull arall o ymchwilio i ffawna’r cefnfor”
(John Gwyn Jeffreys, 1862)
Yn ystod ei oes, cyhoeddodd Jeffreys tua 200 o bapurau gwyddonol, ond ei gyhoeddiad mwyaf arwyddocaol oedd British Conchology. Cyhoeddwyd y gyfres yma mewn pum cyfrol rhwng 1862 ac 1869, ac mae’n cynnwys 132 plât o ddarluniau hardd o gregyn.
Mae’n waith pwysig, gan ei fod yn rhoi disgrifiadau o bob rhywogaeth â gwybodaeth am eu bioleg a ble maen nhw i’w canfod, yn nyfroedd Prydain ac mewn mannau eraill. Mae’n parhau’n gyfeirlyfr safonol hyd heddiw.
Defnyddiodd Jeffreys y gyfres hon i geisio poblogeiddio astudio cregyn; roedd yn gwneud y tudalennau’n braf i’w darllen ac yn annhechnegol os oedd modd. Ond achosodd hyn i’r gyfres fod yn hwy nag yr oedd ei angen, yn fwy costus, ac o ganlyniad yn rhy ddrud i lawer o gregynegwyr.
Ym mhopeth a ysgrifennodd Jeffreys am gregyn, disgrifiodd 41 genws newydd (grwpiau o rywogaethau sy’n perthyn yn agos, er enghraifft Homo, ein genws ni) a 585 rhywogaeth newydd.
Enghreifftiau o blatiau o ddarluniau o British Conchology]
Casgliad cregyn Jeffreys
“Gwn fod y casgliad yn un digyffelyb a’i fod mor berffaith ag y mae’n debyg y gall unrhyw ... [un] fod; ac rwyf wedi mynd i drafferth mawr ac wedi gwario’n helaeth i’w gwblhau … Mae’n debyg y byddai’n cymryd dwy neu dair blynedd i chi drefnu’r casgliad ac ar ôl iddo gael ei drefnu byddai’n ‘olygfa werth ei gweld”
(Jeffreys wrth William Clark, 4 Chwefror 1849)
Casgliad digyffelyb
Roedd gan Jeffreys gasgliad mawr a chynhwysfawr o gregyn. Disgrifiwyd y casgliad ar adeg ei farwolaeth fel casgliad digyffelyb o folysgiaid y môr Prydain. Roedd yn cynnwys enghreifftiau o dros 700 o rywogaethau o folysgiaid, 50 sbesimen o bob rhywogaeth ar gyfartaledd!
Roedd yn cynnwys enghreifftiau o bob rhywogaeth newydd a ddisgrifiwyd gan Jeffreys yn British Conchology ac yn ei bapurau dilynol. Roedd hefyd yn cynnwys casgliadau gwreiddiol naturiaethwyr cynnar eraill o Brydain, fel William Turton, Joshua Alder a William Clark, yr oedd eu casgliadau wedi dod i’w feddiant.
Gwerthu’r casgliad
Pan oedd yn 40 oed, ystyriodd Jeffreys werthu ei gasgliad. Amcangyfrifodd ar y pryd ei fod yn werth £1000, sy’n cyfateb i tua £150,000 yn ein harian ni heddiw!
Yn ei flynyddoedd diweddarach, cynigiodd Jeffreys ei gasgliad i’r Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain, ond gwrthodwyd y cynnig – byddai’r amgueddfa wedi hoffi cael y casgliad, ond doedd ganddyn nhw ddim lle iddo.
Yn y diwedd gwerthwyd y casgliad i’r casglwr Americanaidd William Dall am £1050, a’i gwerthodd ymlaen wedyn i Sefydliad Smithsonian. Disgrifiwyd y gwerthiant yma fel “colled enbyd, i Brydain a hefyd i gregynegwyr Ewrop” ac fel “trychineb cenedlaethol”.
[Mynegi tristwch yn dilyn colli casgliad Jeffreys]
Mae casgliad Jeffreys yn Sefydliad Smithsonian yn Unol Daleithiau America o hyd, er bod rhai cregyn o’r rhan fwyaf o’r allteithiau y bu’n gweithio arnynt yn cael eu cadw yn yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain.
Yn Amgueddfa Cymru, mae casgliad bach o folysgiaid dŵr croyw Cymru Jeffreys, a roddwyd i ni gan Sefydliad Smithsonian yn 1970 ac 1971. Mae casgliad Melvill-Tomlin hefyd yn cynnwys sbesimenau a gasglwyd gan Jeffreys o nifer o’i allteithiau i archwilio’r dyfnfor.
[Detholiad o rywogaethau wedi’u henwi ar ôl Jeffreys yn nghasgliad Melvill-Tomlin]
Cabinet cregyn Jeffreys
Y cabinet
Tra oedd yn byw yn Abertawe, comisiynodd Jeffreys gabinet i ddal ei gasgliad helaeth o gregyn. Daeth y cabinet yma i feddiant Amgueddfa Cymru yn 2004 ac mae’n cael lle amlwg erbyn hyn yn llyfrgell Castell Sain Ffagan.
Mae gan brif gorff y cabinet ddrysau dwbl, sy’n agor i arddangos dwy golofn o ddroriau mahogani â gwydr ar eu pennau i ddal y casgliadau.
Mae’r cabinet cyfan wedi’i wneud yn grefftus â llaw o fahogani Ciwba a Hondwras, a defnyddiwyd darnau o bren â graen cyfatebol ar gyfer yr argaen i wneud iddo edrych yn gymesur, fel cefn ffidil.
Ar ran uchaf y cabinet mae cerfiad pren addurniadol, â lliw trwm sy’n ffurfio silwét dramatig. Mae cragen fylchog yn ffurfio gwyntyll yn y canol ac mae cragen Bedr bapur fenywaidd ar bob pen, sy’n awgrymu’n gynnil beth fyddai y tu mewn i’r cabinet ar un adeg.
Ble a phryd y cafodd y cabinet ei wneud?
Ni wyddom i sicrwydd ble cafodd y cabinet ei wneud. Cafodd ei werthu yn Sotheby’s yn 2001 ac yn Christie’s yn 2004, fel darn Fictoraidd o waith Gillows. Byddai hyn yn golygu ei fod wedi’i gynhyrchu yn Llundain. Fodd bynnag, mae cadwraethwr dodrefn Amgueddfa Cymru yn dweud y gallai fod yn gabinet William y Pedwerydd neu’n un o’r cyfnod Fictoraidd cynnar, yn dyddio o ail chwarter y 19eg ganrif, ac yn awgrymu y gallai fod yn ddodrefnyn Cymreig pwysig.
Mae tystiolaeth bod cabinet a chasgliad Jeffreys wedi treulio 5 mlynedd yn Amgueddfa Sefydliad Brenhinol De Cymru (Amgueddfa Abertawe erbyn heddiw). Ysgrifennodd Jeffreys at Dr Nicol, yr Ysgrifennydd Mygedol, yn 1854 gan egluro y byddai’n cartrefu yno “…nes byddaf yn dychwelyd i’r ardal hon neu bod gennyf resymau eraill i ddymuno ei symud” ac aeth ymlaen i ddweud, “Pan fyddaf yn dychwelyd rwy’n gobeithio y bydd gennyf amser i gwblhau’r trefniant, yna bydd y casgliad ar gael i aelodau’r Sefydliad bob amser.”
Mae label trên ar waelod y cabinet yn dweud mwy wrthym am ei hanes ac yn datgelu ei fod wedi teithio o Abertawe i gartref Jeffreys yn Llundain yn 1859, pan oedd yn gweithio yno fel bargyfreithiwr.
A oes bywyd ar waelod y môr?
“Rwy’n casáu’r môr ynddo’i hun, ond yn goddef yr annifyrrwch er budd gwyddoniaeth neu hanes natur”
(John Gwyn Jeffreys)
Enw’r gred nad oedd môr yn bodoli dan ddyfnder o 550m oedd y ‘ddamcaniaeth Asöig’ a chafodd ei chynnig yn y 1840au gan gyfaill i Jeffreys, sef Edward Forbes. Roedd pobl yn credu bod y ddamcaniaeth yn wir am bron i dri degawd.
Yn y 1860au, esblygodd dichonoldeb archwilio dyfnderoedd llawer mwy gan ddefnyddio dulliau treillio’r dyfnfor, a gofynnodd yr arloeswyr Prydeinig W. B. Carpenter a C. Wyville Thomson am gymorth gan y Gymdeithas Frenhinol a’r Morlys “gyda’r bwriad o ganfod bodolaeth a chysylltiadau sŵolegol anifeiliaid mewn dyfnderoedd mawr”.
Yn 1868, cawsant ganiatâd i ddefnyddio’r HMS Lightning ar gyfer mordaith arbrofol, ac er i dywydd gwael olygu bod angen dychwelyd yn gynnar, llwyddwyd i dreillio dyfnder o 1189m.
Flwyddyn yn ddiweddarach, aethant ymlaen â’u hymchwil ar alltaith gyntaf HMS Porcupine. Jeffreys oedd yr arweinydd gwyddonol ar gyfer rhan gyntaf y daith hanesyddol hon, a oedd yn cynnwys treillio dyfnder o 4289m mewn dyfroedd i’r de-orllewin o Iwerddon. Dyma’r dyfnder mwyaf o bell ffordd i neb geisio ei dreillio erioed, a thrwy godi llwyth o fwd yn cynnwys llawer o fathau o anifeiliaid, profwyd nad oedd damcaniaeth Asöig Forbes yn dal dŵr!
Parhaodd Jeffreys i gymryd rhan mewn llawer o allteithiau i archwilio’r dyfnfor, gan gynnwys Porcupine II (Cefnfor Iwerydd a Môr y Canoldir, 1870), Valorous (yr Ynys Las, 1875) ac alltaith Ffrengig Travailleur (Bae Gwasgwyn, 1880). Fe wnaeth hefyd adnabod, ac ysgrifennu adroddiadau gwyddonol, am y molysgiaid o’r allteithiau a ganlyn:
Alltaith Josephine, 1869
Alltaith Swedaidd, yn treillio o amgylch ynysoedd Azores ac India’r Gorllewin yn bennaf.
Alltaith Shearwater, 1871
Arweiniodd Carpenter yr alltaith hon o Loegr i’r Môr Coch, drwy Fôr y Canoldir. Roedd ganddo ddiddordeb penodol mewn parhau â’i ymchwil i geryntau cefnforol y dyfnfor rhwng Môr Iwerydd a Môr y Canoldir, ymchwil yr oedd wedi dechrau arno yn ystod alltaith Porcupine II.
Allteithiau Travailleur a Talisman, 1880–1882
Yn 1880, drwy wahoddiad gan lywodraeth Ffrainc, aeth Jeffreys a’i gydweithiwr, Dr Norman, gyda’i gilydd i dreillio mewn dyfroedd dwfn ger Bae Gwasgwyn. Roedd hyn yn rhan o gyfres o allteithiau Ffrengig yn gweithio yn yr ardal o Fae Gwasgwyn i’r Môr Sargaso, ac i’r de i Senegal.
Alltaith Washington, 1881
Alltaith Eidalaidd ym Môr y Canoldir, yn gweithredu oddi ar arfordiroedd gorllewinol yr Eidal a Sisili, mewn dyfnderoedd o 60m i 3630m.
Alltaith Triton, 1882
Comisiynwyd yr alltaith hon i ymchwilio i Gefnen Wyville-Thomson, yn Sianel Faroe-Shetland.
Lluniwyd yr erthygl hon drwy ddefnyddio deunydd o arddangosfa Hurrah for the Dredge! a guradwyd gan Harriet Wood, Jennifer Gallichan ac Anna Holmes yn 2009.