Trilobitau yng Nghymru
- Trilobitau yw’r ffosilau sy’n cael eu cysylltu â Chymru gan amlaf, ac maen nhw i’w gweld mewn sawl rhan o’r wlad.
- Mae trilobitau ymhlith y ffosilau anifeiliaid hynaf y gwyddom amdanynt, ac mae rhai dros 500 miliwn mlwydd oed
- Cafodd y lluniadau gwyddonol cyntaf o drilobitau eu gwneud yng Nghymru dros 300 mlynedd yn ôl, gan y naturiaethwr Cymreig Edward Lhwyd yn 1698.
Pe baem yn gofyn i chi enwi ffosil o Gymru, am beth fyddech chi’n meddwl? Amonit, efallai, un o’r cregyn troellog hardd sydd i’w gweld weithiau ar y traeth? Neu efallai fod dinosoriaid yn fwy at eich dant, ac y byddech yn dewis Dracoraptor, y theropod cigysol bach gafodd ei ddarganfod ger Penarth ychydig flynyddoedd yn ôl?
Mae’r ffosilau hyn yn dyddio o’r cyfnod Jwrasig, sydd wedi’i anfarwoli mewn cyfres o ffilmiau Hollywood poblogaidd. Ond oeddech chi’n gwybod bod y rhan fwyaf o’r creigiau sydd yng Nghymru yn llawer hŷn na hynny? Mae’r ffosilau sydd yng nghreigiau Cymru yn dangos yr anifeiliaid a’r planhigion a oedd yn byw yma filiynau o flynyddoedd cyn y dinosoriaid.
Ymhlith y creaduriaid hynafol mwyaf adnabyddus mae’r trilobitau, y cafodd eu ffosilau eu darganfod am y tro cyntaf yng Nghymru dros dri chan mlynedd yn ôl.
Pa fath o anifeiliaid oedd trilobitau?
Rydym yn aml yn disgrifio trilobitau fel creaduriaid sy’n edrych yn debyg i bryfed lludw mawr, gan fod gan y naill a’r llall gyrff â llawer o segmentau. Er bod y ddau’n perthyn i grŵp o anifeiliaid o’r enw ‘arthropodau’, maen nhw’n gefndryd pell iawn. Mae’r enw arthropod yn golygu ‘coes gymalog’, oherwydd mae gan y creaduriaid hyn lawer o goesau cymalog, ynghyd â chragen neu groen allanol cryf, a elwir yn sgerbwd allanol. Mae’n siŵr eich bod wedi gweld cryn dipyn o arthropodau, ond heb sylweddoli efallai. Maen nhw’n cynnwys gwesteion digroeso sy’n sgrialu o gwmpas y lle, fel corynod, pryfed arian, chwilod neu bryfed eraill. Os ydych yn mwynhau gwylio gloÿnnod byw a gwenyn yn mynd o un blodyn i’r llall yn eich gardd neu yn y parc lleol, yna rydych wedi bod yn gwylio arthropodau ers tro byd. Fyddech chi ddim yn cytuno mai un o’r pethau mwyaf cyffrous y gallwch ddod o hyd iddo mewn pwll dŵr ar y creigiau ar lan y môr yw cranc cragen frau â chrafangau miniog?
Mae trilobitau yn grŵp diflanedig o arthropodau. Roedd ganddyn nhw sgerbwd allanol caled a choesau cymalog fel yr arthropodau a welwch chi heddiw, ond roedd eu cyrff wedi’u hadeiladu’n wahanol iawn. Mae’r enw trilobitau yn dod o’r ffaith fod gan eu cyrff dair ‘llabed’, neu dair rhan wahanol. Mae’r rhan ganol yn uwch na gweddill y corff, ac yn ymestyn i lawr canol pen y trilobit, ar hyd ei gorff ac i lawr canol ei gynffon. Mae dwy ochr y corff yr un fath yn union â’i gilydd, ac fel arfer mae’r ochrau ychydig yn is na’r rhan ganol, fel tir gwastad bob ochr i grib mynydd. Mae eu hymylon allanol yn troi o danodd i ffurfio ymyl galed o amgylch bol y trilobit, sy’n feddalach na’r sgerbwd allanol.
Ychydig o ffosilau sy’n dangos coesau trilobitau. Yn wahanol i’r sgerbwd allanol, a oedd yn gorchuddio cefn yr anifail yn ei gyfanrwydd, doedd y coesau ddim yn galed, felly roedden nhw’n llai tebygol o droi’n ffosilau. Roedd gan drilobitau bâr o goesau cymalog dan bob segment o’r corff, ac yn rhan uchaf pob coes roedd tagell, a oedd yn edrych yn debyg i blu, i alluogi’r trilobit i anadlu. Roedd yna hefyd bâr o antenau neu ‘deimlyddion’ ar du blaen y pen.
Roedd llygaid trilobitau yn arbennig iawn. Roedd ganddyn nhw lygaid cyfansawdd fel pryfed â llawer o lensys bach ynghlwm wrth ei gilydd, yn hytrach nag un lens mawr ym mhob llygad fel sydd gennym ni. Mewn llygaid trilobitau, roedd pob lens wedi’i wneud o risial o fwyn o’r enw calsit. Weithiau rydym yn ddigon ffodus i ddod o hyd i ffosilau trilobitau â’u lens llygad grisial yn dal yn ei le. Gallwn eu hastudio i ddarganfod sut roedd trilobitau yn gweld y byd o’u cwmpas. Llygaid trilobitau yw’r llygaid cyfansawdd hynaf y gwyddom amdanynt.
Faint o flynyddoedd yn ôl roedd trilobitau yn byw?
Mae trilobitau ymhlith yr anifeiliaid ffosil hynaf y gwyddom amdanynt. Canfuwyd y ffosilau trilobitau hynaf yn Sbaen, Moroco, Rwsia ac Unol Daleithiau America, ac maen nhw tua 521 miliwn mlwydd oed. Gan fod llawer o’r creigiau hynaf yng Nghymru wedi cael eu gwasgu a’u cynhesu, dyw’r trilobitau hynaf rydym yn eu darganfod yma ddim mor hen – tua 514 miliwn mlwydd oed. Ymddangosodd trilobitau yn gynnar mewn cyfnod rydym yn cyfeirio ato fel y cyfnod Cambriaidd, pan gafodd llawer o anifeiliaid cregynnog eu darganfod am y tro cyntaf fel ffosilau. Rydym yn galw hyn yn ‘ffrwydrad Cambriaidd’, oherwydd ymddangosodd amrywiaeth eang o wahanol bethau byw yn sydyn am y tro cyntaf yn y cofnod ffosilau. Roedd yr amrywiaeth mawr hwn o fywyd fel pe bai’n ‘ffrwydro’ i fodolaeth o nunlle, ond mae’n debyg nad oes ffosilau o’r anifeiliaid a oedd yn bodoli cyn hyn oherwydd bod eu cyrff yn hollol feddal.
Roedd trilobitau yn grŵp llwyddiannus iawn o anifeiliaid, a oedd o gwmpas am tua 270 miliwn o flynyddoedd. Diflanasant tua diwedd y cyfnod Permaidd, tua 252 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn y difodiant torfol mwyaf a welwyd erioed ar wyneb y Ddaear. Fodd bynnag, roedd niferoedd trilobitau wedi bod yn gostwng am beth amser cyn hyn. Dim ond ychydig o rywogaethau yn perthyn i un prif grŵp oedd yn dal o gwmpas pan ddiflanasant yn llwyr yn ‘y marw mawr’, ynghyd â thros 80% o’r holl rywogaethau a oedd yn byw yn y môr bryd hynny!
Ble roedd trilobitau yn byw a beth roedden nhw’n ei fwyta?
Roedd pob trilobit yn byw yn y môr, ond mewn lleoedd amrywiol ac mewn gwahanol ffyrdd. Roedd llawer yn byw ar wely’r môr, yn crafangu drosto neu’n tyrchu i mewn iddo. Roedd eraill yn byw mewn riffiau hynafol wedi’u gwneud gan gwrelau a chreaduriaid eraill y môr. Roedd rhai yn ysglyfaethwyr, yn hela anifeiliaid eraill, ac roedd rhai yn byw drwy chwilota am ddarnau o fwyd a gwastraff, neu drwy hidlo bwyd allan o’r dŵr.
Roedd y rhan fwyaf o’r trilobitau yn byw mewn dŵr cymharol fas, ond roedd rhai wedi addasu i fyw ar waelod cefnforoedd dyfnach. Roedd gan ffosilau Olenus o ogledd Cymru segmentau llydan ar eu cyrff. Credwn fod tagellau mawr ar y rhain a oedd yn eu galluogi i oroesi mewn dŵr dwfn lle nad oedd llawer o ocsigen. Mae rhai paleontolegwyr hyd yn oed yn awgrymu y gallai’r tagellau fod wedi bod yn gartref i facteria, a allai fyw ar sylffwr a darparu ffynhonnell wahanol o egni nad oedd angen ocsigen i’r trilobitau.
Roedd rhai trilobitau wedi addasu i nofio’n rhydd uwchben gwely’r môr yn y dŵr agored. Mae ffordd o fyw mathau eraill yn parhau’n ddirgelwch, fel y trilobitau bach maint pys a elwir yn agnostidau. Mae’n bosibl eu bod yn arnofio yn y cefnfor agored, yn byw ar wymon, neu’n byw fel parasitiaid ar anifeiliaid mwy.
Faint o wahanol fathau o drilobitau oedd yna?
Esblygodd trilobitau i nifer o wahanol fathau – gwyddom am dros 22,000 o rywogaethau ac mae rhywogaethau newydd yn cael eu darganfod bob blwyddyn. Mae’r trilobit cyffredin tua 2-10 cm o hyd, ond roedd ystod y meintiau’n fawr iawn. Mae’r rhai lleiaf rydym yn dod o hyd iddynt yng Nghymru yn cynnwys Peronopsis a Shumardia sy’n llai na centimetr o hyd, a’r un mwyaf y gwyddom amdano o Ynysoedd Prydain yw’r Paradoxides mawr sydd tua 50 cm o hyd. Y trilobit cyfan mwyaf sydd wedi’i ddarganfod yn y byd yw’r Isotelus rex 70 cm o hyd o Ganada, ac mae darnau o drilobit a allai fod yn fwy nag 80 cm wedi cael eu canfod ym Mhortiwgal.
Roedd gan gyrff trilobitau lawer o nodweddion gwahanol i’w galluogi i addasu i’w ffyrdd amrywiol o fyw. Roedd gan drilobitau a oedd yn nofio, fel Degamella, gyrff main, llyfn a llygaid mawr a oedd yn eu galluogi i weld popeth o’u cwmpas. Roedd gan drilobitau eraill lygaid ar goesynnau, ac mae’n bosibl eu bod yn byw wedi’u claddu’n rhannol yng ngwely’r môr. Roedd gan rai lygaid bach iawn, neu ddim o gwbl, ac mae’n debyg eu bod yn byw i lawr yn y dyfnderoedd tywyll.
Un grŵp cyffredin iawn o drilobitau sydd wedi’u darganfod yng Nghymru yw’r trinwcleidau, a oedd â phen anarferol iawn yr olwg. Roedd gan y trinwcleidau ymyl llydan tebyg i fisor haul o amgylch pen hanner cylch, â rhesi o dyllau ynddo a oedd yn edrych yn debyg i ridyll. Mae’n debyg bod yr ymyl rhidyllog yn cael ei ddefnyddio i hidlo bwyd allan o’r dŵr.
Mae pigau yn gyffredin ar drilobitau a byddent wedi bod yn ddefnyddiol mewn llawer o ffyrdd. Byddai’r rhai a oedd yn sticio allan o amgylch yr ymylon wedi gwneud i ysglyfaethwyr feddwl ddwywaith, a byddent hefyd yn gweithredu fel esgid eira, yn gwasgaru pwysau’r trilobit gan ei wneud yn llai tebygol o suddo i fwd meddal. Roedd gan rai trilobitau dall, fel Cnemidopyge, un pigyn hir yn sticio allan o du blaen eu pen, ac mae’n debyg eu bod yn ei ddefnyddio i synhwyro eu hamgylchedd. Mae ffosilau diddorol o Moroco yn dangos ‘llinellau conga’ o drilobitau tebyg sy’n perthyn (Ampyx), yn defnyddio eu pigau i gadw mewn cysylltiad â’i gilydd wrth iddynt symud gyda’i gilydd ar wely’r môr. Roedd trilobitau eraill mor bigog â draenogod – ai dim ond cadw ysglyfaethwyr llwglyd draw oedd pwrpas y pigau yma, ynteu a fydden nhw hefyd yn cael eu defnyddio i’w harddangos i drilobitau eraill?
Roedd sgerbydau allanol llawer o drilobitau wedi’u gorchuddio â lympiau neu rychau. Efallai fod pwrpas i rai o’r rhain – fel cuddliw, synhwyro eu hamgylchedd, rheoli llif dŵr, ei gwneud yn haws i dyrchu – neu efallai fod rhai ohonyn nhw at ddiben arddangos. Roedd cyrff trilobitau eraill yn llyfn, gan ei gwneud yn haws iddynt nofio neu durio.
Sut roedd trilobitau yn tyfu ac yn mynd yn fwy?
Drwy edrych ar rai ffosilau bach iawn, gallwn ddweud sut roedd trilobitau ifanc yn edrych. Roedden nhw’n dechrau eu hoes fel larfa, yn edrych yn wahanol iawn i’r oedolion, yn union fel pryfed a chrancod heddiw. Yna roedden nhw’n tyfu drwy nifer o gamau eraill, gan ddod yn fwy a mwy tebyg i drilobitau aeddfed ar ôl pob cam. Roedden nhw’n dal i dyfu ar ôl iddyn nhw aeddfedu.
Fel pob arthropod, roedd trilobitau yn gorfod bwrw eu croen er mwyn iddyn nhw allu tyfu, a hynny sawl gwaith yn ystod eu hoes. Roedden nhw’n tyfu sgerbwd allanol newydd o dan yr hen un, yna’n torri’r hen un i’w agor ac yn ei daflu ymaith. Roedden nhw’n cymryd dŵr i mewn er mwyn ehangu’r sgerbwd allanol newydd mwy i’w faint llawn ac yn gadael iddo galedu. Mae hyn yn debyg i’r ffordd y mae crancod yn bwrw eu cregyn ac yn tyfu heddiw. Un rheswm pam ein bod wedi darganfod cynifer o drilobitau yw bod anifail yn bwrw nifer o sgerbydau allanol yn ystod ei oes, a bod pob un yn ffosil posibl yn y dyfodol.
Yng nghanolbarth Cymru, gallwn ddod o hyd i lawer o wahanol feintiau (ac oedrannau) o rai o’r trilobitau mwy cyffredin, gan gynnwys Ogyginus corndensis.
Pryd y darganfuwyd y trilobitau cyntaf yng Nghymru?
Mae’n siŵr bod pobl yng Nghymru wedi dechrau sylwi ar drilobitau a ffosilau eraill ganrifoedd yn ôl, ond mae’n debyg nad oedden nhw’n sylweddoli mai olion pethau a oedd ar un adeg yn fyw oedden nhw. Roedden nhw’n adrodd storïau am y siapiau rhyfedd roedden nhw’n eu gweld yn y graig. Adroddwyd un stori o’r fath yn ardal Caerfyrddin i egluro beth oedd cynffonau trilobitau a ddarganfuwyd yn y creigiau. Roedd pobl leol yn meddwl mai gloÿnnod byw a oedd wedi troi’n gerrig oedden nhw! Yn ôl y chwedl roedd Myrddin y dewin wedi syrthio mewn cariad ag un o’r tylwyth teg, ond yn anffodus doedd hi ddim yn teimlo’r un fath tuag ato ef. Un diwrnod, roedd Myrddin mewn ogof a bwriodd y dylwythen deg hud arno i’w gaethiwo yno am byth. Roedd gloÿnnod byw yn hedfan o gwmpas yr ogof a chawsant eu dal yn yr hud a’u rhewi yn y graig am byth. Defnyddiodd gwyddonwyr y stori hon wrth roi enw gwyddonol i’r trilobitau, sef Merlinia.
Mae gan Gymru hanes maith o astudio trilobitau. Cafodd y lluniadau gwyddonol cyntaf erioed o’r ffosilau hyn eu gwneud gan Edward Lhwyd, Cymro a oedd yn adnabyddus am astudio hanes natur, archaeoleg ac ieithoedd Celtaidd. Roedd Lhwyd yn gweithio yn Amgueddfa Ashmole yn Rhydychen a theithiodd o amgylch Cymru i gasglu gwybodaeth ar gyfer llyfr am hanes natur Cymru. Roedd ei lythyrau am ei deithiau yn 1698 yn cynnwys lluniadau o drilobitau yr oedd wedi eu darganfod ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin, a gafodd eu cyhoeddi mewn cyfnodolyn gwyddonol yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Disgrifiodd y mwyaf o’r rhain fel ‘sgerbwd math o leden’ gan mai dyna’r creadur byw yr oedd yn ei atgoffa fwyaf ohono, a doedd ganddo ddim syniad y gallai anifeiliaid ddarfod o’r tir. Gallwn ddweud o luniad clir Lhwyd mai trilobit cyffredin iawn yng Nghymru oedd hwn mewn gwirionedd, sef Ogygiocarella debuchii. Cafodd ail fath o drilobit sydd wedi ei ddarlunio gan Lhwyd ei labelu fel ‘Trinucleum’. Mae hwn yn amlwg yn un o’r trinwcleidau nodedig ag ymyl tebyg i ridyll. Mae darn o drydydd trilobit gafodd ei luniadu ganddo wedi cael ei adnabod erbyn hyn fel trilobit o’r enw Atractopyge.
Yn y tair canrif ers i Lhwyd wneud y lluniadau cyntaf hyn o drilobitau, rydym wedi dysgu mai arthropodau oedden nhw, yn hytrach na physgod, ac mae dwsinau o wahanol rywogaethau wedi cael eu darganfod mewn creigiau yng Nghymru. Ond efallai mai’r darganfyddiad mwyaf cyffrous o’r rhain i gyd oedd pan wnaeth J. W. Salter ddarganfod trilobit anferth yn Sir Benfro dros 150 o flynyddoedd yn ôl. Roedd Salter yn gweithio i’r Arolwg Daearegol ac ymwelodd â llawer o leoedd fel rhan o’i waith yn chwilio am ffosilau. Yn 1862, roedd mewn cwch ar arfordir Sir Benfro, ac yn bwriadu glanio yn Solfach, ger Tyddewi. Drwy lwc, glaniodd mewn camgymeriad ym Mhorth-y-rhaw, cilfach tua milltir i’r gorllewin o Dyddewi. Yn y creigiau yno daeth o hyd i ffosilau trilobit mawr iawn. Galwodd Salter ei ddarganfyddiad newydd yn Paradoxides davidis a dyma’r trilobit mwyaf y gwyddom amdano o Ynysoedd Prydain, sydd tua hanner metr o hyd.
Ble yng Nghymru y gallwn ni ddarganfod trilobitau?
Mae’r rhan fwyaf o’r creigiau sydd dan dirwedd garw Cymru yn hen iawn. Maen nhw’n lleoedd da i chwilio am ffosilau trilobitau, rhai o’r anifeiliaid hynaf y gwyddom amdanynt. Mae’r rhan fwyaf o’r trilobitau yng Nghymru yn dod o greigiau o’r cyfnodau Cambriaidd, Ordofigaidd a Silwraidd, sydd rhyngddyn nhw’n ffurfio rhannau helaeth o’r wlad. Dyma’r tri chyfnod hynaf o amser daearegol rydym yn darganfod ffosilau y gallwn eu hadnabod ohonynt. Enwyd y cyfnod Cambriaidd (485-540 miliwn o flynyddoedd yn ôl) ar ôl yr enw Rhufeinig am Gymru, Cambria. Enwyd y cyfnodau Ordofigaidd (444-485 miliwn o flynyddoedd yn ôl) a’r cyfnod Silwraidd (419-444 miliwn o flynyddoedd yn ôl) ar ôl hen lwythi Cymreig, yr Ordoficiaid a’r Silwriaid.
Mae’r trilobitau hynaf yng Nghymru yn dod o greigiau Cambriaidd yn Eryri, a chawsant eu darganfod yn chwareli llechi’r Penrhyn yn y 1880au. Mae trilobitau Cambriaidd ychydig yn iau yn cael eu darganfod i’r de o Faentwrog yn Eryri, ar Benrhyn Llŷn, yn ardal Tyddewi yn Sir Benfro ac yn Nyffryn Mawddach ger Dolgellau.
Mae Canolbarth Cymru yn enwog am drilobitau Ordofigaidd, ond mae llawer o’r lleoliadau casglu mwyaf adnabyddus ar dir preifat. Rhoddodd daearegwr o’r 19eg ganrif, Roderick Murchison, yr enw anffurfiol ‘Pant y Trilobitau’ ar ardal ger y Trallwng, oherwydd bod cynifer o ffosilau wedi’u darganfod yno, ac erbyn hyn mae’r ardal yn rhan o safle a warchodir (SoDdGA). Mae llawer o drilobitau o’r cyfnod hwn wedi’u darganfod yng ngorllewin Cymru hefyd, yn enwedig yn yr ardaloedd o gwmpas Hwlffordd a Chaerfyrddin, yn Eryri (ambell un ar gopa’r Wyddfa hyd yn oed!), ar Benrhyn Llŷn a ger Corwen yn y gogledd-ddwyrain.
Yn y gorffennol, roedd chwarel Pen-y-lan yng Nghaerdydd yn adnabyddus am ei ffosilau Silwraidd hynod, gan gynnwys enghreifftiau cyfan o drilobitau fel Encrinurus. Yn anffodus, mae rhan o’r safle yn anhygyrch erbyn hyn oherwydd bod prif ffordd wedi’i hadeiladu drwyddo, ond mae gweddill y safle wedi’i warchod. Mae trilobitau Silwraidd hefyd wedi’u darganfod mewn sawl rhan arall o Gymru, gan gynnwys yn ardaloedd Hwlffordd a Llanymddyfri yng ngorllewin Cymru, ym Mhowys o gwmpas Meifod, Pencraig a Llanfair-ym-Muallt, ger Llanystumdwy ar Benrhyn Llŷn, a ger Brynbuga yn Sir Fynwy.
Mae’r trilobitau ieuengaf sydd wedi’u darganfod yng Nghymru yn dyddio o’r cyfnod Carbonifferaidd, tua 350 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ac mae’n nhw’n cael eu darganfod yn achlysurol iawn ar arfordiroedd Gŵyr a Sir Benfro, yn ardal Merthyr Tudful, a ger Llangollen. Mae trilobitau Carbonifferaidd yn cael eu darganfod hefyd ar arfordir y gogledd, ymysg olion riffiau hynafol mewn ardaloedd fel Llandudno a Phrestatyn.