Posteri Rheilffyrdd
Mae posteri rheilffyrdd yn weithiau celf lliwgar sy'n adlewyrchu cyfnod eu cynhyrchu. Mae casgliad Amgueddfa Cymru'n cynnwys tua 60 o enghreifftiau, ac mae'r rhain yn gynrychiolaeth dda o'r mathau o bosteri oedd yn cael eu cynhyrchu a'u harddangos ledled Cymru
Roedden nhw'n nodwedd gyfarwydd wrth deithio ar y rheilffordd, i'w gweld mewn gorsafoedd, swyddfeydd tocynnau ac ar hysbysfyrddau ar y platfform. Fe'u defnyddiwyd i ddenu'r cyhoedd i deithio ar y rheilffordd a dianc o'u bywyd bob dydd. Yn gyffredinol, roedden nhw'n cyflwyno lluniau delfrydol o drefi gwyliau fel Dinbych-y-pysgod ac Aberystwyth; trefi hanesyddol fel Caernarfon; a chefn gwlad ac arfordir y gogledd, Sir Benfro a Gŵyr. Wedi dyfodiad y rheilffyrdd, roedd pobl yn gallu cyrraedd y mannau hyn yn hawdd. Yn wir, dywedir yn aml mai'r rheilffordd a ddyfeisiodd y 'gwyliau pecyn'.
Ym mlynyddoedd cynnar y rheilffyrdd roedd hysbysebu'n digwydd ar ffurf taflenni syml a hysbyslenni bach yn bennaf. Ond datblygodd y rhain i fod yn fwy cywrain, a chafwyd chwyldro mewn argraffu posteri gyda gwelliannau mewn lithograffi lliw ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wrth i'r poster lliw ddod yn rhatach i'w gynhyrchu.
Er bod posteri rheilffyrdd wedi'u defnyddio ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd eu hoes aur rhwng 1923 (pan sefydlwyd pedwar cwmni mawr, y Great Western Railway; Southern Railway; London, Midland & Scottish a'r London & North Eastern Railway) a 1947, pan wladolwyd y rheilffyrdd. Fodd bynnag, mae gan Amgueddfa Cymru enghreifftiau lu o bosteri rheilffyrdd a gynhyrchwyd yn y 1950au a'r 60au sydd yr un mor drawiadol a diddorol, a'r un mor lliwgar a llawen.
Mae rhai posteri'n cyfuno lluniau a sloganau. Un o'r rhai enwocaf yw llun John Hassall o bysgotwr llawen yn sgipio ar y traeth, gyda'r slogan "Skegness is SO Bracing". Datblygodd y pysgotwr llawen hwn yn fasgot i Skegness a chredir ei fod wedi cyfrannu at lwyddiant y dref fel cyrchfan wyliau. Mae'r poster G.W.R. gan John Hassall yn ein casgliad, sy'n dyddio'n ôl i tua 1925, yn hysbysebu Aberdaugleddau, ac yn dangos pysgotwr a bachgen yn gafael mewn pysgodyn gyda'r slogan"Milford Haven – where fish comes from."
Mae casgliad Amgueddfa Cymru'n cynnwys tua 60 o enghreifftiau, ac mae'r rhain yn gynrychiolaeth dda o'r mathau o bosteri oedd yn cael eu cynhyrchu a'u harddangos ledled Cymru. Mae'r enghreifftiau'n amrywio o ran dyddiad o tua 1914 i'r 1960au, gyda llawer iawn o enghreifftiau o'r 1905au a'r 60au. Datblygodd pob cwmni rheilffordd ei arddull unigryw ei hun, ac roedd pob un yn defnyddio artistiaid posteri gorau'r dydd. Mae ein casgliad yn cynnwys enghreifftiau rhagorol gan Norman Wilkinson, Charles Pears a John Hassall.
Casgliadau'r Amgueddfa
Gallwch weld detholiad o'r posteri hyn yn ein cronfa ddata casgliadau, Delweddau Diwydiant.
Llyfryddiaeth
- Happy as a Sand-Boy Early Railway Posters gan Beverly Cole a Richard Durack (1990)
- Railway Posters 1923-1947 gan Beverly Cole a Richard Durack (1992).