Digwyddiad: Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa Wlân Cymru

Cwningod Pasg
Datryswch y posau yn ein Helfa Basg er mwyn hawlio eich siocled blasus!
Dewch i drio'n crefftau ciwt a thrawsnewid yn dditectif pedair coes, cyn mynd ar drywydd y cwningod chwareus sy'n cuddio o gwmpas yr Amgueddfa.
Bydd tair her llawn hwyl ar eich cyfer!
1. Cofia gyfri...
Mae gan bob un o'r cwningod cudd fasged o wyau. Sawl wy sydd yn eu basgedi? Ysgrifenwch y rhif yn yr wy gwag ar y daflen.2. Gweld y Gwahaniaeth... defnyddiwch eich llygaid craff i weld y gwahaniaeth rhwng gwahanol gwningod yr Amgueddfa.
3. Yr Wy Aur... ac i chi dditectifs gwerth eich halen, allwch chi ddod o hyd i'r wy aur bach iawn iawn sy'n cuddio yn yr amgueddfa?
£4 yr helfa - yn cynnwys gwobr siocled (gwobr heb gynnyrch laeth ar gael)
Beth ydw i'n ei gael?
- Llwybr lliw A3 gyda gweithgaredd crefft
- Gwobr siocled (ar ôl cwblhau'r llwybr). Gwobr heb gynnyrch laeth ar gael.
Ble ydw i'n cael y llwybr?
O'r siop yr amgueddfa. Rydym yn derbyn taliadau cerdyn ac arian parod.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Iaith - Mae'r llwybrau'n ddwyieithog.
- Oedran - Yn addas ar gyfer plant 4+ oed , efallai y bydd angen help ar blant iau.
- Cost - Mae'r gost yn cynnwys un llwybr gydag un wobr. Mae croeso i chi gwblhau un fel teulu neu brynu un ar gyfer pob person.
- Lle bo'n bosibl, rydym wedi defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a byddwn yn defnyddio'r rhain eto.
- Mae aelodau yr Amgueddfa yn cael gostyngiad o 20% am tocynnau Helfa Basg.