Digwyddiad:Menter Gwyddoniaeth Mawr: Priodweddau Gwrth-ddŵr Gwlân

Amgueddfa Wlân Cymru

Mae Menter Gwyddoniaeth Mawr  yn dychwelyd i Amgueddfa Wlân Cymru. 

Nid oes angen archebu tocynnau, dim ond galw heibio a mwynhewch!

Priodweddau gwrth-ddŵr gwlân

Sut mae priodweddau gwrth-ddŵr gwlân, fel deunydd dillad, yn cymharu â ffibrau synthetig o waith dyn? Dewch i redeg arbrawf lle byddwch yn cymharu gwlân â 3 deunydd eraill a phenderfynu pa un o’r 4 deunydd a brofwyd yw’r mwyaf diddos. Byddwch hefyd yn cael cyfle i weld y deunyddiau hyn o dan ficrosgop i ddeall y wyddoniaeth y tu ôl iddo!

Menter Gwyddoniaeth Mawr (thebigscienceproject.co.uk)
 

Mae’r digwyddiad yma’n rhad ac am ddim, ond bob tro y byddwch chi’n cyfrannu rhodd boed fach neu fawr, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.

 

Gallwch gyfrannu drwy ymweld  Cefnogwch ni | Amgueddfa Cymru

Gwybodaeth

1 Tachwedd 2024, 1yp-3yp
Pris Am ddim
Addasrwydd Teuluoedd
Archebu lle Galw heibio
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 3yp. 
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.

Mynediad

Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.

Canllaw Mynediad

Parcio

Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau