Digwyddiadau

Digwyddiad: Ar Lafar -Digwyddiad i oedolion sy'n dysgu Cymraeg

Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen
20 Ebrill 2024, 10am-4yp
Pris Mynediad am ddim.
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Mae llefydd yn gyfyngedig. Rhaid archebu tocynnau o flaen llaw ar gyfer rhai gweithgareddau (mae rhai gweithgareddau yn talwch beth allwch)

Mewn partneriaeth â Menter Gorllewin Sir Gâr a Dysgu Cymraeg- Ceredigion, Powys a Sir Gâr

Digwyddiad i oedolion sy'n dysgu Cymraeg!  Rhaid archebu tocynnau o flaen llaw (mae llefydd yn gyfyngedig). Archebwch tocynnau isod!

  • 10am-11am: Gweithdy Ffeltio Gwlyb gydag ein priff crefftwraig, Non Mitchell. Dysgwch sgil newydd wrth ddysgu Cymraeg! (Am Ddim- rhaid archebu tocyn.Llefydd yn gyfyngedig)
  • 11.30am-12.30pm: Mwynhewch daith tywys gan ein prif crefftwraig, Non Mitchell o amgylch Amgueddfa Wlân  Cymru. Darganfyddwch mwy am y proses o ddafad i ddefnydd a gweld arddangosiadau ar y peiriannau hanesyddol gan ein crefftwyr dan hyfforddiant. (Am ddim - dim angen archebu tocyn)

  • 12.30pm-1.30pm: Ymunwch â ni am sesiwn hwyliog gyda'r torrwr record a phencampwr byd clocsio, Tudur Phillips  fydd wrth law i ddysgu camau dawns clocsio hawdd i chi wrth ddysgu Cymraeg. (Rhaid archebu tocyn-Talwch beth allwch chi £3 neu £5. Llefydd yn gyfyngedig)
  • 1.30pm-2.30pm: Ymunwch â’r cerddor Delyth Jenkins i ddysgu Cymraeg trwy ganu a cherddoriaeth. (Am ddim - dim angen archebu tocyn)

Delyth Jenkins – Celtic Harpist from Wales (delyth-jenkins.co.uk) 

  •  2.30pm-3.30pm: Sketchy Welsh 

Mae Joshua Morgan yn ddarlunydd proffesiynol sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Yn ddiweddar, mae wedi bod yn darlunio ei ffordd drwy’r Gymraeg dan faner Sketchy Welsh. Mae Sketchy Welsh yn cyfuno brawddegau Cymraeg gyda darluniau cofiadwy mewn ymgais i helpu i wneud y broses ddysgu yn haws ac yn fwy pleserus.

Yn ei weithdy, bydd yn gwahodd pobl i roi cynnig ar rai o’r technegau y mae’n eu defnyddio i ddarlunio a gwneud dysgu Cymraeg hyd yn oed yn fwy ystyrlon. (Rhaid archebu tocyn-Talwch beth allwch chi £3 neu £5.Llefydd yn gyfyngedig)

Sketchy Welsh  

TOCYNNAU

Digwyddiadau