Digwyddiad: Clwb Crefft i Blant: Gwau: Het Bobble
Amgueddfa Wlân Cymru
Ymunwch â Clwb Crefft misol Amgueddfa Wlân Cymru. Cyfle i fod yn greadigol gan ddysgu a chreu amryw o grefftau.
Y mis hwn mae cyfle i chi roi cynnig ar wau. Cyfle i arbrofi gyda gwahanol dulliau. Gwnewch het bobble eich hun!
- Mae lleoedd yn gyfyngedig a bydd angen i chi archebu tocyn.
- Mae'r clwb yn addas ar gyfer plant 8+
- Rhaid i Rieni/Gwarcheidwaid aros ar y safle am gyfnod y Clwb Crefft.