Digwyddiad: Clwb Crefft i Blant
Amgueddfa Wlân Cymru
![](/media/57944/Clwb-Crefft.jpg)
Ymunwch â Clwb Crefft misol Amgueddfa Wlân Cymru.
Cadwch olwg ar y dudalen hon am fwy o wybodaeth am y Clwb Crefft nesaf ar y 14eg o Fedi!
Mae'n berffaith ar gyfer plant 8 oed i bobl ifanc yn eu harddegau!
Cyfle i fod yn greadigol gan ddysgu a chreu amryw o grefftau a chreu ffrindiau newydd hefyd!
- Mae lleoedd yn gyfyngedig a bydd angen i chi archebu tocyn.
- Mae'r clwb yn addas ar gyfer plant 8+
- Rhaid i Rieni/Gwarcheidwaid aros ar y safle am gyfnod y Clwb Crefft.