Digwyddiadau

Digwyddiad: Sketchy Welsh: Dysgu Cymraeg Trwy Gelf

Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen
22 Mehefin 2024 , 10.30am-11.30am
Pris £5 y person
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Rhad archebu lle

Sylwch mai dyma’r un gweithdy a gynhaliwyd yn ‘Ar Lafar’, Gŵyl Dysgwyr Cymraeg yn Amgueddfa Wlân Cymru ym mis Ebrill 2024.

Mae Joshua Morgan yn ddarlunydd proffesiynol sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Yn ddiweddar, mae wedi bod yn darlunio ei ffordd drwy’r Gymraeg dan faner Sketchy Welsh. Mae Sketchy Welsh yn cyfuno brawddegau Cymraeg gyda darluniau cofiadwy mewn ymgais i helpu i wneud y broses ddysgu yn haws ac yn fwy pleserus.

Yn ei weithdy, bydd yn gwahodd pobl i roi cynnig ar rai o’r technegau y mae’n eu defnyddio i ddarlunio a gwneud dysgu Cymraeg hyd yn oed yn fwy ystyrlon. 

Sketchy Welsh

  • Rhaid archebu tocyn. Llefydd yn gyfyngedig. Addas ar gyfer oedolion, 18+.
  • £5 y person

 

 

 Tocynnau    
 

Digwyddiadau