Digwyddiadau

Digwyddiad: Dydd Agored y Wefan 'Stori Fawr Dre-fach Felindre'

Amgueddfa Wlân Cymru
29 Mehefin 2024, 11am-4yp
Pris Mynediad am ddim
Addasrwydd Pawb

Porth yw’r wefan, Stori Fawr Dre-fach Felindre  i weld ffotograffau a storïau y mae cymunedau ardal Dre-fach Felindre wedi eu rhannu. Ar y ddiwrnod bydd:

( I gofio am gyfraniad y diweddar Olive Campden)  

  • Arddangosiadau cynnwys y wefan hanesyddol ar y sgrin.
  • Arddangosfa o lyfrau am yr ardal a gan awduron lleol.
  • Casgliad o ffeiliau a lluniau hanesion lleol ac adnoddau eraill.
  • Byrddau arddangos, lluniau a gwybodaeth am Griffith Jones.

11yb:  Agoriad Swyddogol gan Gadeirydd Cyngor Sir Gaerfyrddin  ac eitemau gan Blant Ysgol Penboyr.  Cyflwyno gwobrau’r cystadlaethau.
 

11.30yb: Crefftau i’r Plant –  Nyddu a Gwehyddu.
 

12.00: Cyflwyniad yn Saesneg gan Peter Stopp am Griffith Jones, Llanddowror.
 

1.30yp: Sgwrs yn Gymraeg gan Eifion Davies ar ‘Gasgliad Towy Cole Jones’.
 

2.30yp: Sgwrs yn Gymraeg gan Peter Hughes Griffiths ar  ‘Ddylanwad  Teulu’r Lewisiaid  ar y Diwydiant Gwlân ac ar yr ardal’.      
 

Te a Choffi ar gael i bawb am ddim yn ystod y bore                                                
Noddir gan Robin Exton, Gwesty’r Hebog, Caerfyrddin


CROESO AGORED I BAWB         

Stori Fawr Dre-fach Felindre - Home Page (storifawrdrefachfelindre.cymru)

Digwyddiadau