Digwyddiad:Dydd Agored y Wefan 'Stori Fawr Dre-fach Felindre'
Porth yw’r wefan, Stori Fawr Dre-fach Felindre i weld ffotograffau a storïau y mae cymunedau ardal Dre-fach Felindre wedi eu rhannu. Ar y ddiwrnod bydd:
( I gofio am gyfraniad y diweddar Olive Campden)
- Arddangosiadau cynnwys y wefan hanesyddol ar y sgrin.
- Arddangosfa o lyfrau am yr ardal a gan awduron lleol.
- Casgliad o ffeiliau a lluniau hanesion lleol ac adnoddau eraill.
- Byrddau arddangos, lluniau a gwybodaeth am Griffith Jones.
11yb: Agoriad Swyddogol gan Gadeirydd Cyngor Sir Gaerfyrddin ac eitemau gan Blant Ysgol Penboyr. Cyflwyno gwobrau’r cystadlaethau.
11.30yb: Crefftau i’r Plant – Nyddu a Gwehyddu.
12.00: Cyflwyniad yn Saesneg gan Peter Stopp am Griffith Jones, Llanddowror.
1.30yp: Sgwrs yn Gymraeg gan Eifion Davies ar ‘Gasgliad Towy Cole Jones’.
2.30yp: Sgwrs yn Gymraeg gan Peter Hughes Griffiths ar ‘Ddylanwad Teulu’r Lewisiaid ar y Diwydiant Gwlân ac ar yr ardal’.
Te a Choffi ar gael i bawb am ddim yn ystod y bore
Noddir gan Robin Exton, Gwesty’r Hebog, Caerfyrddin
CROESO AGORED I BAWB
Stori Fawr Dre-fach Felindre - Home Page (storifawrdrefachfelindre.cymru)
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
10am - 5pm
Ar agor pum diwrnod yr wythnos – bob dydd Mawrth, Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleParcio
Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Lleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd