Digwyddiad:Ymweliad gwlanog Blŵi ag Amgueddfa Wlân Cymru!

Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen

Yma yn Amgueddfa Wlân Cymru, ni'n dathlu popeth Blŵi a gwlanog gydag ymweliad arbennig gan Blŵi ei hun! NIFER CYFYNGEDIG O DOCYNNAU! 

Mewn partneriaeth â Cyngor Llyfrau Cymru

Prosiect Gwyddoniaeth Mawr - Gweithdy Gwych Blŵi

10.15yb-11.15yb (DIM LLE AR ÔL)

neu

1.30yp-2.30yp

£7 y plentyn. Oedran: Plant 5-12 oed

Rhaid Archebu tocyn o flaen llaw ar-lein!

 Tocynnau    

Ymunwch â ni am antur wlanog wych wedi’i hysbrydoli gan Blŵi. Yn llawn hwyl ymarferol, bydd plant yn lliwio gwlân Blŵi glas i greu cerdyn gwlanog Blŵi neu'n defnyddio gwlân fel brwsh paent i ddatgelu newidiadau lliw hudolus ar bapur arbennig – gwyliwch wrth i Blŵi drawsnewid o flaen eich llygaid! Byddant hefyd yn profi sut y gall gwlân atal iâ rhag toddi, hyd yn oed o dan wres, gan ddarganfod pwerau insiwleiddio anhygoel gwlân. Pwy sy’n cofio’r bennod lle mae Mam Blŵi yn ceisio cysgu? Bydd cyfle I geisio tawelu cloc larwm swnllyd gan ddefnyddio gwahanol ddeunyddiau a dysgu sut mae gwlân yn amsugnwr sain naturiol. Peidiwch â cholli’r profiad unigryw yma fydd yn cyfuno gwyddoniaeth, cynaliadwyedd a hwyl Blŵi!*Bydd Blŵi hefyd yn gwneud ymddangosiad VIP yn y gweithdy*

Cwrdd â Chyfarch Blŵi, Amser Stori a Chrefft!  DIM LLE AR ÔL!

11.30yb (DIM LLE AR ÔL)

12.30yp (DIM LLE AR ÔL)

Rhaid Archebu tocyn o flaen llaw ar-lein am ddim! Addas ar gyfer bob oedran.

Dewch draw i fwynhau amser stori Blŵi ddwyieithog gyda Menter Gorllewin Sir Gâr – a bydd Blŵi yn galw draw i’n gweld! Bydd cyfle i greu crefftau hefyd a gallwch ymweld â'r Amgueddfa i ddarganfod popeth am wlân – o ddafad i ddefnydd.

Gwybodaeth

26 Gorffennaf 2025, Gweithdy wedi'i archebu ymlaen llaw yn dechrau am 10.15yb
Pris £7 am weithdy Blŵi wedi archebu ar-lein ymlaen llaw . Cwrdd â Chyfarch Blŵi, Amser Stori a Chrefft wedi'i archebu ar-lein ymlaen llaw: Am Ddim (Dim lle ar ôl)
Addasrwydd Teuluoedd
Archebu lle Rhaid archebu tocyn ar-lein ymlaen llaw am y gweithdy Blŵi a Cwrdd â Chyfarch Blŵi
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau