Digwyddiad:Newydd! Ffeltio Gwlyb Calan Gaeaf i Blant!

Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen

Newydd ar gyfer 2025! Mwynhewch yn ein gweithdy ffeltio gwlyb. Crëwch eich darn celf ffeltio gwlyb eich hun, o bwmpenni i bryfed cop, y dewis fydd gennych chi! 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Addas ar gyfer Plant 6+ Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn. Oherwydd prinder lle, dim ond un oedolyn all ymuno ar gyfer pob archeb.

Bydd y cwrs hwn yn ddwyieithog. 

Lleoliad: Amgueddfa Wlân Cymru Dre-fach Felindre, Llandysul, Sir Gaerfyrddin, SA44 5UP. Defnyddiwch SA44 5UP ar gyfer llywio lloeren.

Cysylltwch â gwlan@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.

Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.

Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

Gwybodaeth

29 Hydref 2025, 10.30yb-12yp a 2yp-3.30yp
Pris £10 y plentyn
Addasrwydd Plant 6+
Archebu lle Rhaid Archebu Lle
Ffeltio Gwlyb
Ffeltio Gwlyb
ffeltio gwlyb
Ffeltio Gwlyb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau