Digwyddiadau

Cwrs: Cyflwyniad i Waith Gof - Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru
22 Mehefin, 14 Medi a 12 Hydref 2024, 10:00-3pm
Pris £150 | £125 gostyngiad
Addasrwydd 18+

Archebu Tocynnau 

Mae’r cyrsiau llawn diwrnod yma yn rhoi’r cyfle i chi droi eich llaw at grefft hynafol y gof yn efail wreiddiol y Gilfach Ddu, lle bu cenedlaethau o ofaint yn gwasanaethu Chwarel Dinorwig.


Mewn grŵp bychan dan ofal gof yr Amgueddfa, Liam Evans, cewch gyflwyniad at dechnegau gofannu (forging), ffurfio a thorri dur eirias er mwyn creu eich procer metel prydferth eich hun i fynd gartref. *

Mae’r cwrs llawn hwyl hwn yn addas i ddechreuwyr. Bydd dau le i’w archebu ym mhob sesiwn.

*Os oes amser byddwch hefyd yn creu eitem bychan arall o restr awgrymiedig.

 

Gwybodaeth Diogelwch

I gymryd rhan yn y cwrs hwn, mae'n ofynnol i'r cyfranogwyr wisgo dillad digonol (gweler y rhestr isod) a gwrando ar gyfarwyddiadau'r gof a'u dilyn o ran gweithio'n ddiogel yn yr Efail.

  • Rhaid i unrhyw ddillad fod wedi eu gwneud o ffibr naturiol, cotwm 100% os yn bosib.
  • Rhaid gwisgo llewys hir.
  • Rhaid gwisgo trowsus hir sy'n cyrraedd top yr esgid.
  • Rhaid gwisgo esgidiau diogelwch. Rhaid dod â'ch esgidiau eich hun.
  • Rhaid gwisgo'r sbectolau diogelwch gaiff eu darparu yn yr efail drwy'r amser. Darperir ffedog ledr a menig.

Bydd methu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau diogelwch y gof yn arwain at ganslo'r sesiwn.


Gwybodaeth Bwysig Ychwanegol

Mae croeso i chi ddod â pecyn cinio neu ymweld â'n caffi ar y safle.Gallwn gynnig gostyngiad o 10% i gyfranogwyr y cwrs yn ein caffi wrth gynhyrchu tocyn.

Parcio:

Gallwch barcio yn y maes parcio i ymwelwyr, codir tâl o £4.50 a gellir prynu tocyn parcio o’r peiriant talu ac arddangos. Nodwch y gellir talu gydag arian parod neu trwy'r ap ‘pay by phone’.

Iaith:

Mae'r hwylusydd ar gyfer y cwrs hwn yn ddwyieithog (Cymraeg / Saesneg).

Canllaw Oedran:

Mae'r cwrs yma yn addas ar gyfer 18+ oed

Cymhwyster consesiwn

Myfyrwyr ag NUS, rheini sy'n derbyn budd-daliadau, neu pobl dros 60 oed

Hygyrchedd:

Mae'r Efail yn daith gerdded 5 munud o'r maes parcio - cysylltwch â events@museumwales.ac.uk cyn archebu i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.

Gall darllen y telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau yma.

Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.  
 

Cymerwch olwg ar gyrsiau eraill gan Amgueddfa Cymru yma: Cyrsiau Creadigol yn Amgueddfa Cymru | Museum Wales

Digwyddiadau