Digwyddiad: Actorion Preswyl Haf 2023

Wil 'Fittar'

Diwrnod Leusa yn y tŷ Chwarelwr o 1901

Diwrnod Hannah yn Nhy'r Peiriannydd
Dewch i ymuno a'n 3 actor preswyl wrth iddynt ddod a'r amgueddfa yn fyw yr haf yma!
WIL FFITAR (Lleoliad: Gweithdai Ffitio)
Fydd Wil y Ffitar yn hel atgofion am ei waith yn y gweithdai peirianneg yma cyn iddynt gau yn 1969 a cael eu hail-agor fel amgueddfa yn 1972!
- Dydd Llun 28 Awst
DIWRNOD LEUSA (Lleoliad: Tŷ 1901 Tai’r Chwarelwyr) 12pm - 4pm
Ymunwch â Leusa - gwraig Chwarelwr - sydd yn byw yn Rhif 2 Fron Haul, wedi ei ddodrefnnu i gyfnod 1901 ym Methesda! Fydd Leusa yn sôn am yr amser caled sydd yn effeithio hi a'i theulu yn ganol Streic Fawr y Penrhyn yn 1901!
- Dydd Sadwrn 19 Awst
- Dydd Sul 27 Awst
DIWRNOD HANNAH (Lleoliad: Tŷ’r Peiriannydd) 12pm - 4pm
Dewch i ddarganfod mwy am y Tŷ Peiriannydd a'r pethau sydd ynddo a beth mae Hannah angen ei wneud yn ddyddiol gadw trefn yn y ty!
- Dydd Sul 13 Awst
- Dydd Sul 20 Awst
- Dydd Sadwrn 26 Awst
*I gyd yn sesiynau galw mewn - nid oes angen bwcio