Digwyddiad:Hwyl bach yr Wŷl!

Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni i ddathlu’r Nadolig yn Amgueddfa Lechi Cymru! 

Camwch i mewn o'r oerfel wrth ymweld a chartrefi’r chwarelwyr wedi'u haddurno ar gyfer y Nadolig dros y degawdau. 

Bydd cyfle i:

  • Cymryd rhan mewn gweithdy crefft gyda’r corachod ac ymweld â Siôn Corn*

  • Mwynhau amser stori gyda Siân Corn

  • Creu Torchau Rhacs*

  • Creu Pomanders

  • Ymuno yn y canu gyda chorau a bandiau pres lleol
  • Mynd ar daith ar y trên bach

 

*Nodyn:  Mae tocynnau i gyd wedi gwerthu allan ar gyfer Siôn Corn 

  Tocynnau - Siôn Corn a'i Gorachod 

 

  Tocynnau - Gweithdy Torchau Rhacs 

 

Gwybodaeth

3 Rhagfyr 2023, 10am - 3.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Hwyl Fach yr Wyl Llanberis 

Christmas in the Chief Engineer's House

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Oriau Agor

18 Mawrth - 3 Tachwedd 2024     
Ar agor yn ddyddiol 10am - 5pm

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

Cyfeiriad

Llanberis
Gwynedd
LL55 4TY

Map a Sut i Gyrraedd Yma

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein siop goffi bellach yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Parcio

Mae digonedd o le parcio i geir a bysiau. Codir tâl am barcio.
Cyngor Gwynedd sy'n berchen ar faes parcio Maes Parcio Gwledig Padarn ac yn ei weithredu. Mae'r parcio'n costio £4.50. Mae’n bosib talu a cherdyn (www.paybyphone.co.uk/ neu defnyddiwch yr app ffôn / Lleoliad 804552)  Os mai dim ond gydag arian parod y gallwch dalu, byddwch yn ymwybodol na allwn gyflenwi newid ar hyn o bryd.

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau