Digwyddiadau

Arddangosfa: LLECHI: GOLWG GWAHANOL!

Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen
18 Mai 2023 – 3 Mawrth 2024
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Ar Ben y Chwareli gan David Peers

Logo Safle Treftadaeth y Byd - Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru

Arddangosfa ffotograffiaeth i ysbrydoli golwg wahanol ar dirwedd y chwareli! 

Yn 2021 derbyniodd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru statws Treftadaeth Byd. 

Cafodd lluniau o harddwch rhyfeddol yr ardal eu gweld ar hyd a lled y byd – delweddau trawiadol o’r chwareli o’r awyr, mynyddoedd o lechi a grëwyd gan chwarelwyr, a harddwch yr hen farics a pheirianwaith. 

Mae rhai o’r golygfeydd syfrdanol o’n tirwedd llechi a’i phobl wedi dod yn gyfarwydd iawn - ond ar gyfer y gystadleuaeth ffotograffiaeth hon - ar y cyd rhwng Llechi Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru - gofynnom am luniau sy’n adlewyrchu golwg gwahanol, unigryw neu anarferol ohoni.

Derbyniom dros 200 o luniau i gynrychioli tair thema:

  • Aruthrol - yn dehongli  pa mor syfrdanol a rhyfeddol yw’r tirwedd llechi

  • Arloesol - yn dangos natur arloesol y diwydiant, neu’n dangos sut y gwnaeth dorri tir newydd

  • Cymuned – yn adlewyrchu'r bobl a'r llefydd sy'n gwneud y cymunedau llechi yn arbennig

Mae’r arddangosfa hon yn gyfle i chi fwynhau’r ffotograffau a ddewiswyd gan y panel beirniadu.

 

Am fwy o wybodaeth am Safle Traftadaeth y Byd  Gogledd Orllewin Cymru ewch i  https://www.llechi.cymru/cy 

Digwyddiadau