Digwyddiad:Sesiynau Blasu Gwirfoddoli!

Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen

I ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr rydyn ni’n eich gwahodd i gael blas ar wirfoddoli yn Amgueddfa Lechi Cymru drwy brofi gweithgareddau gwahanol!

 

CREU MATIAU RHACS!

Dydd Iau 1.6.2023 1pm - 4pm

 

Mae ein gwirfoddolwyr Matiau Rhacs yn cwrdd yn rheolaidd i helpu ni ail-greu matiau rhacs i’n tai hanesyddol.

Dewch i weld nhw ar waith cyn mentro draw i’n hystafell grefftio i drio eich hunain!

Cewch dreulio gymaint neu cyn lleied o amser a ‘da chi eisiau, mae croeso i bawb o bob oed!

D'oes dim angen profiad blaenorol o greu matiau rhacs.

*Sesiynau Galw Mewn - nid oes angen trefnu lle*

 

CYNNAL A CHADW PEIRIANNAU HANESYDDOL!

Dydd Mercher 7.6.2023        10:00am - 12.30pm neu 1:30pm - 4pm

 

Mae'n rhaid i ni lanhau ac oelio'r peiriannau sy'n cael eu harddangos yn yr Amgueddfa yn rheolaidd. 

I ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr, rydym yn eich gwahodd chi i'n helpu! 

Dewch i ganol y llwch a helpwch ni i warchod y casgliad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Nid oes angen profiad blaenorol arnoch chi. Bydd gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant a chymorth parhaus. 

Sicrhewch eich bod yn hapus i faeddu eich dwylo.

Mae'r sesiwn wedi'i threfnu i bara dwy awr a hanner. Mae hyn yn cynnwys sesiwn friffio iechyd a diogelwch, amser i rhoi offer digelwch amdanoch ac egwyl fer yn y canol.

 

*RHAID cofrestru o flaen llaw. Trefnwch eich lle yma: https://fy.amgueddfa.cymru/overview/5033

 

 

 

 

 

 

Gwybodaeth

1–7 Mehefin 2023
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Creu matiau rhacs yn Amgueddfa Lechi Cymru 

Peiriannau Diwydiannol yn Amgueddfa Lechi Cymru 

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Oriau Agor

18 Mawrth - 3 Tachwedd 2024     
Ar agor yn ddyddiol 10am - 5pm

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

Cyfeiriad

Llanberis
Gwynedd
LL55 4TY

Map a Sut i Gyrraedd Yma

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein siop goffi bellach yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Parcio

Mae digonedd o le parcio i geir a bysiau. Codir tâl am barcio.
Cyngor Gwynedd sy'n berchen ar faes parcio Maes Parcio Gwledig Padarn ac yn ei weithredu. Mae'r parcio'n costio £4.50. Mae’n bosib talu a cherdyn (www.paybyphone.co.uk/ neu defnyddiwch yr app ffôn / Lleoliad 804552)  Os mai dim ond gydag arian parod y gallwch dalu, byddwch yn ymwybodol na allwn gyflenwi newid ar hyn o bryd.

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau