Digwyddiad: Sesiynau Blasu Gwirfoddoli!

Creu matiau rhacs yn Amgueddfa Lechi Cymru

Peiriannau Diwydiannol yn Amgueddfa Lechi Cymru
I ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr rydyn ni’n eich gwahodd i gael blas ar wirfoddoli yn Amgueddfa Lechi Cymru drwy brofi gweithgareddau gwahanol!
CREU MATIAU RHACS!
Dydd Iau 1.6.2023 1pm - 4pm
Mae ein gwirfoddolwyr Matiau Rhacs yn cwrdd yn rheolaidd i helpu ni ail-greu matiau rhacs i’n tai hanesyddol.
Dewch i weld nhw ar waith cyn mentro draw i’n hystafell grefftio i drio eich hunain!
Cewch dreulio gymaint neu cyn lleied o amser a ‘da chi eisiau, mae croeso i bawb o bob oed!
D'oes dim angen profiad blaenorol o greu matiau rhacs.
*Sesiynau Galw Mewn - nid oes angen trefnu lle*
CYNNAL A CHADW PEIRIANNAU HANESYDDOL!
Dydd Mercher 7.6.2023 10:00am - 12.30pm neu 1:30pm - 4pm
Mae'n rhaid i ni lanhau ac oelio'r peiriannau sy'n cael eu harddangos yn yr Amgueddfa yn rheolaidd.
I ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr, rydym yn eich gwahodd chi i'n helpu!
Dewch i ganol y llwch a helpwch ni i warchod y casgliad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Nid oes angen profiad blaenorol arnoch chi. Bydd gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant a chymorth parhaus.
Sicrhewch eich bod yn hapus i faeddu eich dwylo.
Mae'r sesiwn wedi'i threfnu i bara dwy awr a hanner. Mae hyn yn cynnwys sesiwn friffio iechyd a diogelwch, amser i rhoi offer digelwch amdanoch ac egwyl fer yn y canol.
*RHAID cofrestru o flaen llaw. Trefnwch eich lle yma: https://fy.amgueddfa.cymru/overview/5033