Digwyddiad: Dyfeisgar
Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen
Ymunwch â ni ar gyfer Dyfeisgar - diwrnod llawn o weithgareddau gwyddonol a hwyl i’r teulu i gyd!
Ein thema yw PŴER. Bydd pob math o weithgareddau yn ymwneud â chreu pŵer, teithiau trên bach, ymweliad gan robot arbennig a sioe gan ein hoff wyddonydd Cyw - Sbarc!
Beth sydd i’w wneud?
- Gweithdai Sbarduno*
Creu Anemomedr er mwyn mesur pŵer y gwynt
Dysgu am Gylched Craig drwy ddefnyddio Siocled
- Gwylio Sioe Sbarc - sioe hwyliog gan wyddonydd Cyw ar gyfer y teulu i gyd*
- Ymweld â Robot Prifysgol Bangor
- Creu trydan gyda gwyoddonwyr o Brifysgol Bangor
- Taith ar y tren bach
- Dysgu am sut mae’r Olwyn Ddŵr yn creu pŵer
- Crefftau a gweithgareddau gyda’n “gwyddonwyr gwirion”
*Nodwch, mae cost ychwanegol i weithgareddau Sbarduno a Sioe Sbarc a bydd angen tocyn o flaen llaw.