Digwyddiad:Cofnodi 150 mlynedd ers sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen

Ymunwch a ni yn ar ddydd Sadwrn, Ebrill 27 yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, i nodi a dathlu 150 mlynedd ers sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru.

 

Bydd yr Athro R. Merfyn Jones yn traddodi darlith ‘Undeb y Chwarelwyr: 1874-2024’ am 1.30yh yn yr Amgueddfa. 

Bydd hefyd cyfle i weld dogfennau gwreiddiol yr Undeb sydd fel arfer ar gadw yn Archifdy Caernarfon. 

 

Am 3pm bydd cyfle i ymuno mewn taith gerdded ar hyd y llyn o’r amgueddfa i Graig yr Undeb, gyda baner arbennig i ddathlu hanes yr undeb, wedi ei chreu gan fyfyrwyr a disgyblion o’r ardal, a chyfranogwyr mewn gweithdai cymunedol yn Llanberis a Bethesda.

 

Traddodir y ddarlith drwy gyfrwng y Gymraeg. 

 

Mae tocynnau AM DDIM ond rhaid bwcio ymlaen llaw drwy (01286) 679095 neu ebostio  archifau@gwynedd.llyw.cymru.

 

Digwyddiad ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru a Cyngor Gwynedd / LlechiCymru

 

Dilynwch y linc yma am fwy o wybodaeth ynglyn â gweithgareddau i ddathlu Penblwydd 150 oed Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru 

https://amgueddfa.cymru/llechi/digwyddiadau/12231/Sesiynau-creu-baneri-i-ddathlu-penblwydd-150-oed-Undeb-Chwarelwyr-Gogledd-Cymru-/?

Gwybodaeth

27 Ebrill 2024, 1.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Logo Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru 

Tirwedd tawel sy’n cynnwys llyn glas clir wedi’i amgylchynu gan wyrddni, mae'r mynyddoedd yn uchel dan awyr disglair. Mae’r tirwedd yn garegog ac wedi’i orchuddio â glaswellt a phlanhigion bach, tra bod y cefndir yn dangos mynyddoedd mawreddog sydd wedi’u

Craig yr Undeb, Llanberis

Gweithdai Creu Baneri

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau