Digwyddiad:Sesiynau creu baneri i ddathlu penblwydd 150 oed Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen

A wyddoch chi ei bod hi'n 150 mlynedd ers ffurfio Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru? 

Sefydlwyd yr Undeb ar 27 Ebrill yn 1874 i ddiogelu hawliau ac amodau gwaith chwarelwyr llechi. 

 

Mae cario baneri mewn digwyddiadau undebau llafur wedi bod yn ffordd bwysig o gynrychioli a denu sylw erioed. 

 

Ymunwch â ni i greu baner gydweithredol a fydd yn cael ei chario o'r Amgueddfa Lechi at Graig yr Undeb yn ystod digwyddiad 

dathlu'r penblwydd arbennig yma ar 27ain Ebrill. 

 

Mae 2 leoliad gallwch gymeryd rhan: 

  • 19 Ebrill: Canolfan Cefnfaes ym Methesda 1pm - 3pm neu 7pm - 9pm 
  • 23 Ebrill: Y Festri, Llanberis 1pm -3pm neu 7pm - 9pm

 

Dewch i gymryd rhan. Agored i bawb! Am Ddim! 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chloe Ward: chloe.ward@amgueddfacymru.ac.uk

 

Am fanylion am Ddigwyddiad dathlu 150 yr Undeb  ewch i:  

https://amgueddfa.cymru/llechi/digwyddiadau/12230/Cofnodi-150-mlynedd-ers-sefydlu-Undeb-Chwarelwyr-Gogledd-Cymru/?

Gwybodaeth

19 a 23 Ebrill 2024, 1pm - 3pm & 7pm - 9pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Ail-greu baner Undebaeth gan blant ysgol lleol

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau