Digwyddiad: Sesiynau creu baneri i ddathlu penblwydd 150 oed Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru
Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen
A wyddoch chi ei bod hi'n 150 mlynedd ers ffurfio Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru?
Sefydlwyd yr Undeb ar 27 Ebrill yn 1874 i ddiogelu hawliau ac amodau gwaith chwarelwyr llechi.
Mae cario baneri mewn digwyddiadau undebau llafur wedi bod yn ffordd bwysig o gynrychioli a denu sylw erioed.
Ymunwch â ni i greu baner gydweithredol a fydd yn cael ei chario o'r Amgueddfa Lechi at Graig yr Undeb yn ystod digwyddiad
dathlu'r penblwydd arbennig yma ar 27ain Ebrill.
Mae 2 leoliad gallwch gymeryd rhan:
- 19 Ebrill: Canolfan Cefnfaes ym Methesda 1pm - 3pm neu 7pm - 9pm
- 23 Ebrill: Y Festri, Llanberis 1pm -3pm neu 7pm - 9pm
Dewch i gymryd rhan. Agored i bawb! Am Ddim!
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chloe Ward: chloe.ward@amgueddfacymru.ac.uk
Am fanylion am Ddigwyddiad dathlu 150 yr Undeb ewch i: