Arddangosfa:HAENAU gan Rhiannon Gwyn
HAENAU gan Rhiannon Gwyn
Yma gyda’i arddangosfa unigol gyntaf, mae Rhiannon Gwyn yn arddangos ei chasgliad diweddaraf o waith, ‘Haenau’.
Mae Rhiannon wedi datblygu techneg arloesol o doddi a siapio llechi Cymreig.
Mae teitl yr arddangosfa yn cyfeirio at yr haenau gweledol o liwiau, gweadau a deunyddiau amrywiol yn nhirwedd ei chartref yn Eryri, yn ogystal a’r haenau anweledig, isymwybodol o hanes, hunaniaeth ddiwylliannol, atgofion a iaith, sydd wedi dylanwadu'n gryf ar ei harfer creadigol, ac yn parhau i wneud.
I gipio'r haenau hyn mae Rhiannon, o Sling - pentref chwarelyddol llechi ger Bethesda, gogledd Cymru, yn archwilio potensial llawn pigmentau amrwd y ddaear drwy greu paent a gwydredd naturiol i ddefnyddio yn ei gwaith a hefyd drwy roi’r lechen drwy broses o fetamorffiaeth.
Mae'r llechen wedi'i doddi yn cael ei harddangos gyda bowlenni ceramig wedi'u gwneud â llaw, pob un wedi'i baentio â gwydredd wedi'i wneud o ddeunyddiau naturiol fel y mae hi'n esbonio:
“Drwy weithio a deunyddiau lleol - y rhan fwyaf ohonynt yn sgil-gynhyrchion o brosesau gan ddiwydiannau a sefydliau lleol, megis llechi Cymreig sy’n wastraff o’r chwarel leol, lludw eithin o waith clirio Parc Cenedlaethol Eryri ar Foel Faban a chlai o lannau afonydd cyfagos – mae’n archwilio sut y gall deunyddiau gyfleu hunaniaeth drwy ddylanwadu ar y ffordd rydym yn gweld ein hunain a’r byd o’n cwmpas drwy drosglwyddo emosiwn ar ein hamgylchedd.”
Mae ei gwaith celf a'i chrefft gyda’r deunyddiau wedi cael eu cydnabod gan Amgueddfa Cymru sydd wedi gaffael un o'i gweithiau sef 'Y Nefoedd yn Toddi i'r Tir' - ar ôl iddo gael ei arddangos y llynedd yn eu harddangosfa 'Rheolau Gelf' ac yn arddangosfa 'Y Lle Celf' Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae hi hefyd wedi ennill gwobr Gwneuthurwr Newydd yn yr Ŵyl Serameg Ryngwladol yn Aberystwyth, wedi cael eu dewis ar gyfer 'Rhaglen Datblygu Talent Biennial' Cerameg Prydain a wedi derbyn cyllid gan 'Celfyddydau Rhyngwladol Cymru' i fynd ar daith ymchwil i'r Unol Daleithiau.
Yr arddangosfa hon yw arddangosfa unigol gyntaf Rhiannon, sy'n arddangos y gwaith a gynhyrchwyd fel rhan o'i phrosiect ymchwil a datblygu a ariennir gan gronfa 'Creu' Cyngor Celfyddydau Cymru. Cafwyd cefnogaeth hefyd gan Canolfan Grefft Rhuthun, Parc Cenedlaethol Eryri, Partneriaeth Tirwedd y Carneddau a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ariannwyd y ffilm yn yr arddangosfa gan Parc Cenedlaethol Eryri.
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
18 Mawrth - 3 Tachwedd 2024
Ar agor yn ddyddiol 10am - 5pm
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein siop goffi bellach yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Parcio
Mae digonedd o le parcio i geir a bysiau. Codir tâl am barcio.
Cyngor Gwynedd sy'n berchen ar faes parcio Maes Parcio Gwledig Padarn ac yn ei weithredu. Mae'r parcio'n costio £4.50. Mae’n bosib talu a cherdyn (www.paybyphone.co.uk/ neu defnyddiwch yr app ffôn / Lleoliad 804552) Os mai dim ond gydag arian parod y gallwch dalu, byddwch yn ymwybodol na allwn gyflenwi newid ar hyn o bryd.
Lleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd