Digwyddiad:Tu ôl i Ddrysau Caeedig
Oes gennych chi gysylltiad hefo Chwarel Dinorwig?
Hoffech chi fod yn ran o brosiect newydd creadigol?
Dewch draw i'r Amgueddfa Lechi ar 13 Medi i gymryd rhan mewn sesiwn greadigol hefo’r awdur a’r actores Rhian Cadwaladr.
Dyma gyfle i chi gael dod a hanes yn fyw trwy helpu Rhian greu cymeriad newydd yn seiliedig ar beth sydd ganddoch chi i ddweud am hanes y chwarel.
Mi fydd Rhian Cadwaladr yn eich tywys o gwmpas yr ardaoledd domestig yn yr amgueddfa ac yna’n arwain ar y gwaith o greu cymeriad o’r newydd.
Ein nôd yw sicrhau bod lleisiau trigolion y gymuned leol yn ganolog i’r gwaith sy’n cael ei gynhyrchu.
Mae croeso i chi ddod a lluniau / gwrthrychau eich hun os oes gennych chi rhai i’w rhannu.
Mae’r sesiwn AM DDIM, yn agored i bawb a nid oes angen trefnu lle ymlaen llaw.
Os mae unrhyw ymholiad cysylltwch â llechi@amgueddfacymru.ac.uk
Ariennir prosiect ail-ddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru gan Lywodraeth y DU trwy Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect Llewyrch o’r Llechi, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a gweithgareddau codi arian eraill.
Gwybodaeth
Rhian Cadwaladr mewn cymeriad fel Hannah
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd