Digwyddiad:Safbwynt(iau) - Bod yn Ddu yng Nghymru
Ymunwch â ni am drafodaeth yn procio’r meddwl ac yn edrych ar wahanol brofiadau o fod yn Ddu yng Nghymru a sut mae hanes trefedigaethol Cymru wedi siapio a dylanwadu gwaith pedwar unigolyn.
Bydd y drafodaeth gyda Yr Athro Charlotte Williams OBE, Mfikela Jean Samuel a Nasir Adam, dan arweiniad yr artist Jasmine Violet yn trafod sut all celf fod yn gatalydd pwerus ar gyfer deialog a newid, gan gynnig lens unigryw lle gall y siaradwyr rannu eu profiadau o’r byd celf Cymreig.
Ar ôl y drafodaeth, bydd gwahoddiad i bawb gymryd rhan mewn gweithdy creadigol a fydd yn cynnig gofod anffurfiol i fyfyrio a mynd i’r afael yn greadigol â’r themâu a drafodwyd yn ystod y digwyddiad.
Bydd lluniaeth arbennig yn dilyn y sgwrs a'r gweithdy.
Bachwch ar y cyfle unigryw yma i edrych ar hanes, celf a hunaniaeth mewn lleoliad unigryw.
Mae llefydd AM DDIM ond rhaid trefnu ymlaen llaw drwy ebostio llechi@amgueddfacymru.ac.uk.
Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg. Cysylltwch os hoffech chi gael cyfieithu Cymraeg.
Mae Safbwynt(iau) yn broject ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru gyda’r bwriad o weddnewid sut mae’r sector treftadaeth a chelfyddyd weledol yn adlewyrchu amrywiaeth diwylliannol ac ethnig ein cymdeithas. Cefnogir y project gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ymdrech i gyflawni amcanion diwylliant a threftadaeth y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Gwybodaeth
Panel Safbwynt(iau) Amgueddfa Lechi Cymru
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd