Digwyddiad:Hwyl Fawr... Am y Tro!

Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen

Gwybodaeth

26 Hydref–3 Tachwedd 2024
Pris Am Ddim
Addasrwydd PAWB

Wrth i’r Amgueddfa Lechi gau ei drysau am gyfnod ar gyfer gwaith ailddatblygu cyffrous, ymunwch â ni i fwynhau wythnos o weithgareddau yn yr amgueddfa! 

Bydd cyfres o deithiau tywys yn esbonio be fydd yn cael ei warchod, ei wella a’i drawsnewid dros y ddwy flynedd nesaf, a sut y byddwn yn gweithio â chymunedau amrywiol yr ardal i ddatblygu’r ystod o straeon sy’n cael eu hadrodd ar y safle a cewch glywed mwy am sut yr ydym yn mynd ati i symud miloedd o wrthrychau oddi ar y safle yn ddiogel ynghyd a chyfle i gymryd cip tu ôl i’r llen ar rai o’n gwrthrychau difyrraf. Bydd cyfle hefyd i gymeryd rhan mewn gweithdai crefft ac i gyfarfod cymeriad Amgueddfa newydd - Gwyneth - ynghyd a'r cymeriadau eraill sef Hannah a Leusa.  

Cymerwch olwg ar y rhaglen isod: 

 

 

Ymweld

Oriau Agor

18 Mawrth - 3 Tachwedd 2024     
Ar agor yn ddyddiol 10am - 5pm

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

Cyfeiriad

Llanberis
Gwynedd
LL55 4TY

Map a Sut i Gyrraedd Yma

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein siop goffi bellach yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Parcio

Mae digonedd o le parcio i geir a bysiau. Codir tâl am barcio.
Cyngor Gwynedd sy'n berchen ar faes parcio Maes Parcio Gwledig Padarn ac yn ei weithredu. Mae'r parcio'n costio £4.50. Mae’n bosib talu a cherdyn (www.paybyphone.co.uk/ neu defnyddiwch yr app ffôn / Lleoliad 804552)  Os mai dim ond gydag arian parod y gallwch dalu, byddwch yn ymwybodol na allwn gyflenwi newid ar hyn o bryd.

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau