Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Galwch draw i'r Ffowndri i fwynhau clywed yr amgueddfa’n atsain!
Dewch i fwynhau ffrwyth llafur ein prosiect ‘Sbragio!’ - lle bu disgyblion Ysgol Brynrefail yn creu cerddoriaeth wedi ei ysbrydoli gan eirfa a synau’r chwarel.
Bydd perfformiad o’u gwaith am 2pm, a setiau acwstig hamddenol gan Tesni Hughes a Gwilym Bowen Rhys i ddilyn.
Dydd Gwener 1 Tachwedd / 2pm-4pm
AM DDIM. Dim angen bwcio - jesd galw mewn
Rhan o weithgareddau 'Hwyl Fawr am y Tro' - gweithgareddau i nodi wythnos olaf yr Amgueddfa Lechi ar agor cyn cau ar gyfer cyfnod o ail-ddatblygu!
Am fwy o fanylion ewch i: https://amgueddfa.cymru/llechi/ailddatblygiadau
Ariennir prosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru gyda nawdd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth y DU trwy Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect Llewyrch o’r Llechi, Llywodraeth Cymru a chyllidwyr eraill.
Gwilym Bowen Rhys
Tesni Hughes
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd