Digwyddiad:Gweithdy Barddoniaeth LDHT+

Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen
Gweithdy Barddoniaeth LDHT+ gyda Buddug Roberts
 
Ymunwch â ni am weithdy barddoniaeth unigryw, dan ofal y bardd amryddawn Buddug Roberts.
 
Mae’r digwyddiad yn gwahodd aelodau o’r gymuned LDHT+ ar draws Gogledd Cymru i archwilio eu lleisiau trwy farddoniaeth, tra hefyd yn myfyrio ar straeon chwarelwyr ac unigolion oedd yn gorfod cuddio eu hunaniaeth oherwydd pwysau cymdeithasol eu hamser.
 
Bydd y gweithdy yn dechrau gyda thaith o amgylch yr amgueddfa, gan gynnig cipolwg ar hanes cyfoethog y diwydiant llechi, ac yna sesiwn ysgrifennu barddoniaeth yn y Caban i ddilyn.
 
Os ydych chi’n fardd profiadol neu’n ddechreuwr, dewch i rannu eich creadigrwydd, cysylltu ag eraill, a meddwl mwy am y lleisiau o’r gorffennol na chafodd eu clywed.
Croeso mawr i bawb!
 
Mae'r digwyddiad yma yn rhan o weithgareddau ymgysylltu prosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. 
Ariennir y prosiect gyda nawdd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, 
a Llywodraeth y DU trwy Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect Llewyrch o’r Llechi.
Darllenwch fwy am y prosiect yma: https://amgueddfa.cymru/llechi/ailddatblygu

Gwybodaeth

12 Hydref 2024, 1pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Y Bardd - Buddug Roberts

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau