Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Helfa Basg
Neidiwch draw i Ysbyty’r Chwarel y Pasg hwn a ymunwch â’n llwybr teuluol g-wŷ-ch! Chwiliwch am wyau Pasg sydd wedi’w cuddio o amgylch yr Ysbyty a chwblhewch heriau hwyliog ar hyd y ffordd. Dewch i ddatrys y cliwiau, a darganfod y gair arbennig i hawlio eich gwobr!
Ar gael bob dydd drwy gwyliau’r Pasg.
Oedran – Addas ar gyfer plant 4+ oed, efallai y bydd angen help ar blant iau.
Mae Llwybrau Pasg ar gael mewn safleoedd eraill o’r Amgueddfa Genedlaethol hefyd, ond gall y gweithgareddau amrywio.
Margaret y Matron
Ymunwch â Margaret – mêtron yn Ysbyty’r Chwarel - yn 1921 i ddarganfod fwy am fywyd yn yr Ysbyty. Mi fydd hi'n dweud wrthych sut beth yw gofalu am chwarelwyr sydd wedi’u hanafu, ac weithiau ambell i dieithrin! Nid yw bywyd yn yr Ysbyty yn hawdd – mae yna reolau llym, staff gweithgar, a rhai triniaethau newydd a allai eich synnu! Camwch i’w esgidiau hi, clywch ambell stori go iawn o’r gorffennol, a darganfyddwch sut beth oedd gweithio, gwella a byw yn Ysbyty’r Chwarel dros 100 mlynedd yn ôl.
Dydd Iau 2 Ebrill a 9 Ebrill yn ystod gwyliau'r Pasg rhwng 12pm a 4pm.
Lliwio Llechi
Fel rhan o’ch ymweliad, gall teuluoedd hefyd fwynhau ein gweithgaredd arbennig Lliwio Llechi, sy’n cael ei gynnal bob Dydd Iau yn Ysbyty’r Chwarel yn ystod gwyliau’r Pasg. Dewch i fod yn greadigol ac addurnwch llechen eich hun i'w gadw.
Amseroedd agor
Mae Ysbyty’r Chwarel ar agor Dydd Llun i Ddydd Sul, 10am–5pm.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd