Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Helfa Basg
Neidiwch draw i Ysbyty’r Chwarel y Pasg hwn a ymunwch â’n llwybr teuluol g-wŷ-ch! Chwiliwch am wyau Pasg sydd wedi’w cuddio o amgylch yr Ysbyty a chwblhewch heriau hwyliog ar hyd y ffordd. Dewch i ddatrys y cliwiau, a darganfod y gair arbennig i hawlio eich gwobr!
Oedran – Addas ar gyfer plant 4+ oed, efallai y bydd angen help ar blant iau.
Margaret y Matron
Ymunwch â Margaret – mêtron yn Ysbyty’r Chwarel - yn 1921 i ddarganfod fwy am fywyd yn yr Ysbyty. Mi fydd hi'n dweud wrthych sut beth yw gofalu am chwarelwyr sydd wedi’u hanafu, ac weithiau ambell i dieithrin! Nid yw bywyd yn yr Ysbyty yn hawdd – mae yna reolau llym, staff gweithgar, a rhai triniaethau newydd a allai eich synnu! Camwch i’w esgidiau hi, clywch ambell stori go iawn o’r gorffennol, a darganfyddwch sut beth oedd gweithio, gwella a byw yn Ysbyty’r Chwarel dros 100 mlynedd yn ôl.
Lliwio Llechi
Fel rhan o’ch ymweliad, gall teuluoedd hefyd fwynhau ein gweithgaredd arbennig Lliwio Llechi, sy’n cael ei gynnal bob Dydd Iau yn Ysbyty’r Chwarel yn ystod gwyliau’r Pasg. Dewch i fod yn greadigol ac addurnwch llechen eich hun i'w gadw.
Amseroedd agor
Mae Ysbyty’r Chwarel ar agor Dydd Llun i Ddydd Sadwrn, 10am–4.30pm.
*Dim ond parcio ar gyfer deilliad bathodyn anabl sydd wrth yr Ysbyty Chwarel. Parciwch yn y brif maes parcio ym Mharc Padarn a cymerywch un o'r llwybrau i fyny at ys Ysbyty*
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd