Digwyddiad:Amgueddfa ar y Lôn: Blaenau Ffestiniog
Tra bod yr Amgueddfa ar gau, ein cam nesaf yw parhau â’n stori y tu hwnt i furiau’r amgueddfa – a mynd a’r Amgueddfa ar y Lôn! Rydym am wneud y mwyaf o’r cyfle unigryw hwn a mynd â’n pobl, ein casgliadau a’n straeon i leoliadau ein partneriaid sydd wrth galon y cymunedau llechi.
Ymunwch hefo ni yn Gwyl y Glaw yn Blaenau Ffestiniog. Dewch i weld rhai eitemau o ein casgliad, gan gynnwys Cadair Eisteddfod Gadeiriol Caban Mills. Cymerwch ran yn Eisteddfod y Gwrthrychau i ddewis pa gwrthrych gaif ei goroni o ein casgliad o Blaenau Ffestiniog. Mi fydd yno chwarelwr yn arddangos ei grefft tu allan i'r Aelwyd drwy'r prynhawn.
Dyddiad: Dydd Iau 18 Medi
Amser: 12 - 5yh
Lleoliad: Yr Aelwyd
Pris: Am Ddim
Mewn partneriaeth â LleCHI LleNI
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd