Digwyddiad:Digwyddiad Rhwydweithio Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru - Caernarfon

Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen

Fe’ch gwahoddir i ddigwyddiad rhwydweithio Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru!

Mae Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn grŵp o bobl ifanc 16–25 oed sy’n dod o Gymru neu yn byw yma. Maen nhw’n cydweithio â’r Amgueddfa drwy gyfleoedd cyfranogol a chyflogedig.

Mae’n cynnig cyfle i ddyfnhau gwybodaeth a sicrhau bod sefydliadau treftadaeth a diwylliant yn fwy cynrychioliadol o’r bobl ifanc a’r diwylliannau niferus sy’n byw yng Nghymru heddiw. Rydyn ni yma i wneud treftadaeth yn berthnasol!

Mae’r digwyddiad rhwydweithio hwn yn gyfle i chi gwrdd â phobl ifanc greadigol eraill sy’n rhannu eich diddordeb mewn diwylliant, a gwneud cysylltiadau newydd er mwyn cydweithio ar brojectau Amgueddfa Cymru a’ch gwaith eich hun.

  • Cynhelir y digwyddiad yn Swyddfa’r Harbwr, Cei Llechi, Caernarfon LL55 2PB.
  • Bydd bwyd fegan / llysieuol ar gael.
  • Os oes gennych unrhyw alergeddau neu anghenion mynediad, rhowch wybod i ni drwy e-bost ar gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk.
  • Bydd hwn yn ddigwyddiad dwyieithog Cymraeg a Saesneg, ond rydyn ni’n eich annog i rannu a dathlu ieithoedd eraill hefyd.

ARCHEBWCH EICH LLE

Gwybodaeth

28 Mehefin 2025, 1:00yh-3:00yh
Pris Am Ddim
Addasrwydd Addas i bobl rhwng 16-25 oed.
Logo ar gyfer rhydwaith Bloedd Amgueddfa Cymru.
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau