Digwyddiad:Amgueddfa ar y Lôn: Taith gerdded Rhys Mwyn, Castell Penrhyn
Dewch i ddilyn taith gyda Rhys Mwyn o Gastell Penrhyn i bentref Llandygai gan ddysgu am hanes a chysylltiadau diwydiannol y teulu Penrhyn. Bydd y daith yn para o ddeutu 2 awr, dros bellter o tua 2 filltir.
Yn dilyn y daith gerdded hefo Rhys Mwyn, mi fydd yno awr o egwyl. Am 1:30yh bydd Richard Pennington, Rheolwr Casgliadau a Thŷ Castell Penrhyn, yn cynnal sgwrs yn trafod casgliadau diwydiannol Castell Penrhyn sy'n gysylltiedig â Dyffryn Ogwen.
Rydym yn argymell yn gryf i chi wisgo dillad ac esgidiau cyfforddus ac addas ar gyfer amodau tywydd.
Dyddiad: 15 Awst 2025
Amser: 10:30yb - 12:30yh taith Rhys Mwyn. 1:30yh - 2:30yh sgwrs Richard Pennington.
Lleoliad: Castell Penrhyn, LL57 4HT
Pris: £5
Hygyrchedd: Mae'r daith gerdded yn dilyn lôn fynediad Castell Penrhyn a ni ddylai fod ar unrhyw dirwedd anwastad. Cofiwch fod hwn yn daith tua 2 filltir o hyd, felly yn anffodus ni allwn wneud unrhyw addasiadau i wella'r hygyrchedd. Diogelwch eich bod yn gwisgo dillad a esgidiau addas ar gyfer y daith.
Gwybodaeth Tocynnau: Sicrhewch eich bod chi yn cyrraedd Castell Penrhyn 10 munud cyn cychwyn y daith. Fe wnawn gofrestru mynychwyr tu allan i'r Ganolfan Ymwelwyr yn Castell Penrhyn, os allwch plis gwneud eich ffordd yno yn brydlon. Ni fydd ticedi ar werth ar y diwrnod, felly allwch chi sicrhau eich bod yn archebu ticed oflaen llaw.
Tocynnau ar gael yma: Amgueddfa ar y Lôn: Taith gerdded Rhys Mwyn, Castell Penrhyn | Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Lechi Cymru mewn cydweithrediad a Chastell Penrhyn a LleCHI LleNI
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd