Digwyddiad:Taith Tu Ôl i'r Llen – Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Lechi Cymru, Llandygai
Ymunwch â ni am daith am ddim o'r Ganolfan Gasgliadau yn Llandygai, lle mae holl gasgliadau Amgueddfa Lechi Cymru’n cael eu storio tra mae’r amgueddfa ar gau i ailddatblygu.
Bydd cyfle i ddysgu mwy am y broses o gofnodi, threfnu a symud miloedd o wrthrychau, yn ogystal a chael golwg agosach ar greiriau difyr!
- Bydd y digwyddiad yma drwy gyfrwng y Gymraeg - darperir cyfieithu ar y pryd.
- Bydd y sesiwn yn para tua 90 munud.
- Addas ar gyfer oed:16+
- Rhaid archebu lle.
Mi fydd cyfarwyddiadau sut i gyrraedd Canolfan Casgliadau Llandygai yn cael ei anfon atoch ddiwrnod cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn gwirio eich e-byst yn rheolaidd.
Gwybodaeth
Digwyddiadau perthnasol
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd