Digwyddiad:Teithiau Sain Ddisgrifiad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Picture Post: Eicon o'r Ugeinfed Ganrif | 10/07/2025 | 13:00
Dyma daith am ddim i ymwelwyr sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg o arddangosfa Picture Post: Eicon o'r Ugeinfed Ganrif.
Mae'n gyfle i ddysgu mwy am un o ffoto-gylchgronau mwyaf poblogaidd Prydain, Picture Post. Cafodd ei lansio ym 1938, a llwyddodd i gofnodi newidiadau gwleidyddol a diwylliannol dramatig. Picture Post oedd enghraifft amlycaf Prydain o ffotonewyddiaduraeth, gan ddangos hanes cymdeithasol Prydain ar adegau tyngedfennol – o dwf ffasgiaeth yn y 1930au i ddiwylliant poblogaidd y 1950au.
- Bydd y daith hon yn ddwyieithog.
- Oedran addasrwydd: 18+
- Bydd y sesiwn yn para tua 2 awr.
Mae 1 tocyn yn yn rhoi'r hawl i chi ddod a thywysydd fel cwmni.
Rhowch wybod os ydych yn bwriadu dod â thywysydd, ddod â chi tywys, neu os hoffech i'r amgueddfa ddarparu tywysydd ar eich cyfer.
Exploring the Clore Discovery Centre | 18/09/2025 | 13:00
Taith am ddim i ymwelwyr dall neu sydd â nam ar eu golwg yng Nghanolfan Ddarganfod Clore.
Bydd cyfle i ymlacio mewn gofod rhyngweithiol poblogaidd, dysgu mwy am gasgliadau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a thrin a thrafod gwrthrychau go iawn.
- Bydd y daith hon yn ddwyieithog.
- Oedran addasrwydd: 18+
- Bydd y sesiwn yn para tua 2 awr.
Mae 1 tocyn yn yn rhoi'r hawl i chi ddod a thywysydd fel cwmni.
Rhowch wybod os ydych yn bwriadu dod â thywysydd, ddod â chi tywys, neu os hoffech i'r amgueddfa ddarparu tywysydd ar eich cyfer.
Gwybodaeth
Tocynnau
Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
---|---|---|
10 July 2025 | 13:00 | Gweld Tocynnau |
18 September 2025 | 13:00 | Gweld Tocynnau |