Digwyddiad:Dangosiad Croen Siwgr - Safbwynt(iau)
Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen
Dewch efo ni i Gastell Penrhyn i ddathlu gwaith Jasmine Violet a grëwyd fel rhan o broject Safbwynt(iau) gydag Amgueddfa Lechi Cymru, Croen Siwgr.
Bydd dangosiad o ffilm Jasmine, Croen Siwgr, sydd yn archwiliad o'r cysylltiadau rhwng y diwydiant llechi, ystâd Penrhyn a Jamaica. Bydd hefyd cyfweliad gyda Jasmine i ddeall y broses greadigol tu ôl i'r gwaith, a sesiwn cwestiwn ac ateb ar gyfer y gynulleidfa.
Byddwn yn gwahodd pawb o'r gynulleidfa i gymryd rhan mewn gweithdy creadigol gyda siwgr a phigment sy'n dangos yn y tywyllwch, fel y defnyddiwyd gan Jasmine yn Croen Siwgr.
Mae Croen Siwgr yn rhan o Safbwynt(iau), sef project ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru gyda’r bwriad o weddnewid sut mae’r sector treftadaeth a chelfyddyd weledol yn adlewyrchu amrywiaeth diwylliannol ac ethnig ein cymdeithas. Cefnogir y project gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ymdrech i gyflawni amcanion diwylliant a threftadaeth y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
16 Medi
1:00-3:00pm
Castell Penrhyn
Gan mai Saesneg yw iaith yr artist fydd y drafodaeth yn Saesneg. Fydd cyfieithu ar y pryd er myn sicrhau gall unrhyw un o'r gynulleidfa gymryd rhan yn iaith eu hunain.
Gwybodaeth
16 Medi,
1:00-3:00yh
Pris
Am Ddim
Addasrwydd
Oedolion
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd