Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymunwch â ni, a tenantiaid eraill Parc Padarn, i ddathlu'r Nadolig!
Edrychwch ymlaen i gael sesiwn storiau Nadolig hefo Siân Corn, ymweld a Ysbyty'r Chwarel, creu torch rhacs eich hunain hefo Amgueddfa Lechi Cymru, taith ar Rheilffordd Llyn Padarn o Lanberis i Gilfach Ddu, amser siopau a lluniaeth hefo Gwdihw, Odyn Copr a Padarn Pottery, a cyfle i archebu eitemau sawna hefo Sawna Bach a llawer mwy!
Dewch i ddathlu'r Nadolig hefo ni!
Manylion
- Mae Amser Stori hefo Siân Corn a Gweithdai Torchau Rhacs yn ddigwyddiadau wedi'w docynnu.
- Mae yna gost o £1 i blant, a £2 i oedolion deithio un ffordd ar Rheilffordd Llyn Padarn. Sicrhewch bod ganddoch arian parod, os nad ydych wedi archebu tocyn fel rhan o ddigwyddiad Amser Stori hefo Siân Corn.
- Am fwy o manylion ar gyfer digwyddiadau unigol, gweler y dudalen wefan priodol.
Tocynnau- Amser Stori hefo Siân Corn
Tocynnau - Gweithdai Torchau Rhacs
Mae’r gweithgareddau yma yn rhan o brosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru a gyllidir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ogystal â chymorth gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o’r prosiect Llewyrch o'r Llechi, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston ac arianwyr eraill.
Nadolig ym Mharc Padarn
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd