Digwyddiad:Nadolig y Forwyn

Amgueddfa Lechi Cymru

Mae hi’n fis Rhagfyr 1902 ac mae’r castell yn ferw o weithgarwch wrth i staff y gegin baratoi ar gyfer dathliadau’r Nadolig. Mae Gwen y forwyn yn brysur wrth ei gwaith ond yn methu peidio a meddwl am ei theulu nôl adref ym Methesda gyfagos. Mae ei chwaer, sy’n wraig i chwarelwr, ar drothwy trydydd blwyddyn Streic Fawr y Penrhyn, a bydd Nadolig ei theulu hithau'n wahanol iawn i’r arfer…

Ymunwch â ni am y profiad ymdrochol yma gyda’n actor preswyl i ddysgu am draddodiadau’r Nadolig yng Nghastell Penrhyn a’r gymhariaeth gyda chaledi bywyd yn ystod Streic Fawr y Penrhyn 1900-1903, y gweithredu diwydiannol hiraf yn hanes Prydain.

Mae hwn yn brosiect cydweithredol rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Amgueddfa Lechi Cymru, wedi ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.

Lleoliad: Castell Penrhyn a'r Ardd, Bangor, LL57 4HT

Pris: Am Ddim*

Rhagor o wybodaeth: A Servant's Christmas | Nadolig y Forwyn | National Trust

*Er bod y perfformiad am ddim, mae yno gost i gael mynediad i Castell Penrhyn a'r Ardd. Cyfeiriwch at wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gael rhagor o wybodaeth: Castell Penrhyn a'r Ardd | Cymru | National Trust

Gwybodaeth

Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr, 11yb - 3yh
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Merch mewn gwisg morwyn mewn gegin 1900au.
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau