Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae Una wrthi'n cael ei thrwsio yn Boston Lodge, gweithdai peirianyddol Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri. Rydyn ni eisiau rhoi cyfle i bobl helpu ni efo'r gwaith!
Adeiladwyd Una ym 1905 gan gwmni Hunslet o Leeds a bu’n gweithio yn Chwarel Mhen-yr-Orsedd tan tua 1960, yn cael ei defnyddio’n bennaf i gludo wagenni o rwbel y tu mewn i’r Chwarel. Yn anffodus methodd ei phrofion perfformiad ychydig flynyddoedd yn ôl ac mae wedi gorfod aros yn segur ers hynny oherwydd rheolau iechyd a diogelwch, er mawr siom i staff ac ymwelwyr. Ond nawr mae 'na gyfle unigryw i fod yn rhan o'r gwaith i adnewyddu hi gyda ni a Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri. Dewch i'n helpu ni!
Byddwch yn gwirfoddoli yn Boston Lodge, Minffordd. 16+ Nid oes angen profiad blaenorol. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael. Cadwch mewn cof fod hon yn rôl gorfforol ar safle diwydiannol. Bydd angen esgidiau cadarn (esgidiau gwaith, esgidiau cerdded, ayyb.) Cysylltwch â Chloe Ward i gofrestru neu am fwy o wybodaeth: chloe.ward@amgueddfacymru.ac.uk
Mae’r gweithgaredd yma yn rhan o brosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru a gyllidir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ogystal â chymorth gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o’r prosiect Llewyrch o'r Llechi, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston ac arianwyr eraill.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd