Digwyddiad:Taith gerdded: Chwarel Vivian a'r Inclen V2

Amgueddfa Lechi Cymru

Dewch i ddilyn taith y lechen gyda staff Amgueddfa Lechi Cymru o gwmpas Chwarel Vivian, Parc Padarn. Cewch gyfle i glywed am hanes y chwarelwyr ar y graig ac yn y gwaliau ac i ddeall mwy am ddyfeisiadau rhyfeddol fel yr ‘inclen’ a’r ‘blondin’.


 

Rydym yn cynnig teithiau yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wahân. Sicrhewch eich bod yn archebu'r daith yn yr iaith sydd ei hangen arnoch.

  • Oedran addasrwydd: 8+
  • Bydd teithiau yn para am 1 awr.
  • Byddwn yn cychwyn ym maes parcio'r Gilfach Ddu wrth yr arwydd llechen Gilfach Ddu, ac yn gorffen y daith ger Ysbyty Chwarel Dinorwig.
  • Mae'r daith gerdded hon yn anaddas i bobl sydd ag anghenion mynediad oherwydd natur y dirwedd a llwybrau serth, cul. Bydd angen esgidiau cadarn er mwyn ymuno â’r daith. Os nad ydych yn gwisgo esgidiau addas, ni fydd modd i chi ymuno â ni.
  • Os bydd rhagolygon am dywydd garw, bydd penderfyniad i ohirio neu ganslo’r daith yn cael ei rannu'r prynhawn cynt.
  • Mae croeso i chi ddod â ci ond iddo fod ar dennyn gydol y daith.
  • Cadwch gyda’r grŵp, os gwelwch yn dda, neu dywedwch wrth un o’r staff os ydych yn dymuno gadael y daith.
  • Cymerwch ofal ar y daith – cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw eich diogelwch.

Gyda’r tocynnau rhataf yn £1, rydyn ni’n eich annog chi i dalu beth allwch chi. Gofynnwyd i grwpiau o 6 neu fwy gwneud ymholiadau ymlaen llaw drwy e-bost i chloe.ward@amgueddfacymru.ac.uk.

Logo yn llawn logos ariannwyr

Gwybodaeth

Dydd Mawrth 25 Awst, 4, 11, 18 & 25 Medi, 11:30AM & 2:00PM
Pris Gyda’r tocynnau rhataf yn £1, rydyn ni’n eich annog chi i dalu beth allwch chi.
Addasrwydd 8+
Delweddau y diwydiant Llechi

Delweddau Diwydiannol

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
25 Awst 2026 11:30Sesiwn Gymraeg Gweld Tocynnau
25 Awst 2026 14:00Sesiwn Gymraeg Gweld Tocynnau
4 Medi 2026 11:30Sesiwn Gymraeg Gweld Tocynnau
4 Medi 2026 14:00Sesiwn Gymraeg Gweld Tocynnau
11 Medi 2026 11:30Sesiwn Gymraeg Gweld Tocynnau
11 Medi 2026 14:00Sesiwn Gymraeg Gweld Tocynnau
18 Medi 2026 11:30Sesiwn Gymraeg Gweld Tocynnau
18 Medi 2026 14:00Sesiwn Gymraeg Gweld Tocynnau
25 Medi 2026 11:30Sesiwn Gymraeg Gweld Tocynnau
25 Medi 2026 14:00Sesiwn Gymraeg Gweld Tocynnau

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau