Digwyddiad:Arddangosiadau

Amgueddfa Lechi Cymru

Dewch i fwynhau un o'n teithiau cerdded, sgyrsiau neu arddangosiadau!

HOLLTI A NADDU LLECHI

Dewch i ryfeddu at sgiliau ein chwarelwyr wrth iddynt hollti a naddu'r llechi yn ein arddangosiadau poblogaidd! 

Yn ogystal a hollti'n grefftus, mae ein crefftwyr hefyd yn creu gweithiau crefft yn galonnau, fframiau lluniau a gwyntyllau cymleth.

Amseroedd:  Yn ddyddiol- gofynnwch am amseroedd wrth gyraedd.

GWAITH Y GOF

Galwch heibio'r Efail i weld ein Gof wrth ei waith! 

Er fod pob gweithdy gyda rhan pwysig ei hun i'w chwarae yng ngwaith y Gilfach Ddu, yr Efail, ar lawer ystyr, oedd wrth galon y gwaith! 

Dyma lle deuai llawer o fân gydrannau a gynhyrchwyd mewn rhannau eraill o'r iard ynghyd - yn sprocedi neu gadwyni, echeli ac olwynion.

Heddiw mae ein gof yn parhau i gefnogi gwaith yr Amgueddfa gyda'i sgiliau ond yn ogystal yn creu eitemau unigol hardd i'w gwerthu yn y siop - i gyd wrth ddangos ei grefft i'n hymwelwyr.

Amseroedd:  Oherwydd mai ond un gof sydd gennym yn yr amgueddfa, nid yw arddangosiadau yn cymeryd ffurf rheolaidd dyddiol, ond ar gael ar brydiau gwahanol pob wythnos.                                     Cysylltwch â ni drwy ffonio 02920 573700 i holi os yw'r gof yn dangos ar ddiwrnod eich ymweliad

Gwybodaeth

Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Arddangosfa Hollti a Naddu Llechi

Y Gof wrth ei waith

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau